Mae eich dyfodol yma
Croeso i’n hwb Sgiliau a Thalent newydd, siop un stop i fusnesau sydd eisiau ehangu ac i bobl sydd eisiau rhoi hwb i’w gyrfa ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Swyddi yn fyw nawr!
Beth yw Venture?
Dyfodol wedi'i adeiladu ar Sgiliau a Thalent
Bydd Dyfodol gwaith yn ein rhanbarth yn cael ei adeiladu ar ryddhau pŵer ein cyflogwyr a'n gweithwyr. Ac mae’r dyfodol hwnnw’n cyrraedd - gyda Venture.
Venture Graddedigion
Cysylltu graddedigion talentog a busnesau uchelgeisiol
Nod Cynllun Venture Graddedigion yw gwella cynhyrchiant, arloesi a thwf economaidd drwy gysylltu graddedigion â busnesau uchelgeisiol yn y deg awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae 5 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yng Nghaerffili
Mae 5 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yn Sir Fynwy
Mae 9 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yng Nghasnewydd
Mae 1 graddedig wedi’i leoli mewn cwmni yn Nhorfaen
Mae 1 graddedig wedi’i leoli mewn cwmni ym Merthyr Tudfil
Mae 7 graddedig wedi’i leoli mewn cwmni yn Rhondda Cynon Taf
Mae 5 o Raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau ym Mro Morgannwg
Mae 6 graddedig wedi’u lleoli mewn cwmnïau ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae 61 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yng Nghaerdydd
Rydym wedi penodi 101 o raddedigion ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae Venture Graddedigion yn gweithio gydag amrywiaeth eang o fusnesau yn y ranbarth, yn amrywio o fusnesau cychwynnol, meicro, menter fach i ganolig, a busnesau mawr, i gyd yn awyddus i gynnig cyfleoedd i raddedigion sy’n dechrau eu gyrfa i ddefnyddio eu sgiliau a gwybodaeth i helpu eu busnesau i ehangu. Mae nifer o’r busnesau gan gynnwys Spire Renewables (Caerffili), Mag Manager (Sir Fynwy), Lovell (Caerdydd) a Clifton Finance (Caerdydd) yn cyflogi eu hail a trydydd graddedigion trwy’r cynllun.
2000+
o geisiadau hyd yma
85%
o interniaethau wedi'u gwneud yn rolau parhaol
341
o gysylltiadau busnes newydd wedi’u gwneud o fewn P-RC
53%
o'r graddedigion a benodwyd hyd yma yn dod o brifysgolion lleol
GEIRDA VENTURE GRADDEDIGION
Nigel Griffiths, Cadeirydd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n siarad â ni am ei brofiad personol o ddefnyddio rhaglen Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn esbonio pam y byddai’n argymell defnyddio Venture Graddedigion i unrhyw fusnes BBaCh sy’n dymuno cael gafael ar dalent o safon.