Alex Hopkins – MSc Human Resource Management

Enw: Alex Hopkins

O ble rwy’n dod: Casnewydd, De Cymru

Prifysgol: Prifysgol De Cymru

Dyddiad Graddio: 15 Tachwedd 2021

Teitl Graddedig: MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol

Dyddiad Dechrau:  27 Medi, 2021

Cyflogwr: Specialist Security Co

Goruchwylydd: Rachel Fleri

Cwestiynau

A wnaethoch chi gais am lawer o rolau neu gynlluniau i raddedigion? (os do, sawl un?)

Cynllun PRC oedd y lle cyntaf i fi droi ato wrth ymgeisio am swyddi i raddedigion. Roeddwn wedi gwneud cais am tua 5 rôl, gyda fy nghyflogwr presennol yn ail gyfweliad tra oeddwn yn raddedig.

Beth oedd eich teimladau ynghylch gwneud cais am rolau/cynlluniau yn ystod pandemig?

Roeddwn i’n nerfus iawn nad oeddwn i’n mynd i allu sicrhau unrhyw waith llawn amser ac roeddwn i’n dychmygu gorfod setlo am waith rhan-amser nes bod mwy o gyfleoedd ar gael i raddedigion.

Beth ddenodd chi at gynllun graddedigion P-RC?

Cefais fy nenu am y tro cyntaf i gynllun PRC pan gefais gyfarfod â chynghorydd gyrfa yn nhrydedd flwyddyn fy ngradd israddedig. Ar ôl ymchwilio i’r cynllun a thrafod y cyfleoedd mwy gyda fy nghynghorydd o P-RC, roedd yn amlwg bod cyfleoedd ar gael i raddedigion. Rwy’n teimlo bod y cynllun hwn yn bendant wedi fy helpu i fagu hyder wrth chwilio am swyddi a gwneud i fi gredu mwy ynof fy hun.

Sut bu eich profiad o wneud cais am Gynllun Graddedigion P-RC yn ystod y pandemig?

I ddechrau, roeddwn wedi gwneud cais am y cynllun i weld beth oedd ar gael a wnes i ddim breuddwydio y byddwn yn mynychu 3 chyfweliad i raddedigion mewn un wythnos, heb sôn wneud hynny yn ystod pandemig byd-eang.

Beth rydych yn gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod ar y cynllun?

Yr hyn rwyf wir am ei gyflawni yn ystod y cynllun yw cael cyfle i brofi fy moeseg gwaith a’m hymrwymiad i ddatblygu. Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol dros wella fy hun ac mae’r cynllun hwn wedi agor llawer o ddrysau. O fewn tair wythnos, rwyf wedi sicrhau swydd wych gyda chyfleoedd anhygoel, ac rwyf wedi dod o hyd i gyflogwr sy’n gwerthfawrogi gwaith a phenderfyniad graddedigion.

Oes unrhyw beth y byddech yn ei ddweud wrth eraill sy’n ymgeisio am y cynllun?

Os oes un darn o gyngor byddwn yn ei roi i bobl sy’n ystyried y cynllun byddwn yn dweud EWCH AMDANI! Y peth gwaethaf a allai ddigwydd o bosibl yw eich bod yn cael profiad o’r broses ymgeisio a chyfweld, hyd yn oed os nad ydych yn llwyddo i ddod o hyd i rôl sy’n addas i chi. Mae’r tîm wedi bod yn fendith ac maent yn deall yr anawsterau sy’n wynebu graddedigion ac yn wirioneddol awyddus i ddod o hyd i rôl addas i chi.

Un frawddeg i grynhoi eich profiad o Gynllun Graddedigion PRC…

Mae’r cynllun graddedigion PRC wedi fy nysgu i gredu ynof fy hun, i fod yn benderfynol ac i sefyll dros yr hyn a gredaf.

Un gair i grynhoi eich profiad o Gynllun Graddedigion PRC…

Cyffrous.

Datganiad Personol

Fy enw i yw Alex Hopkins ac astudiais BA (Anrh) Rheoli Busnes yn fy ngradd israddedig, ac ar hyn o bryd rwy’n cwblhau’r modiwl olaf ar yr MSc Rheoli Adnoddau Dynol. Rwy’n bendant yn berson sy’n hoff o bobl ac rwyf wrth fy modd yn meithrin perthnasoedd a datblygu fy hun. Fy rôl newydd, a sicrhawyd drwy’r cynllun graddedigion PRC, yw ‘Gweinyddwr Adnoddau Dynol ac Ansawdd Busnes’ – fy swydd ddelfrydol. Rwyf wedi cwblhau fy wythnos gyntaf ac rwyf wrth fy modd. Mae pob diwrnod yn wahanol ac rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob awr. Mae’r tîm rwy’n gweithio gydag ef yn wych ac rwy’n edrych ymlaen at roi hwb i’m gyrfa gyda’r swydd newydd gyffrous hon a’r cyfleoedd sydd ganddi.

Other Case Studies

Laura Coombs – Renewable Energy Trainee at Spire Renewables