Enw: Amarjot Saggu
Swydd a Chwmni Presennol: Peiriannydd Graddedig yn Zimmer Biomet
Beth a’ch denodd at gynllun graddedigion P-RC?
- Roedd y cynllun graddedigion yn un lle byddwn yn ymwneud â llawer o brosiectau mawr gyda lefel uchel o gyfrifoldeb o’r diwrnod cyntaf mewn maes sydd o ddiddordeb i mi.
- Mae’r cymorth rydym yn ei gael yn amhrisiadwy – mentora a’r cyfle i ennill cymwysterau ychwanegol i ddatblygu ein gyrfa ymhellach.
- Amgylchedd cefnogol o ochr P-RC a’r cwmni rwy’n gweithio iddo.
Beth rydych yn gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod ar y cynllun?
- Adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a enillais yn y brifysgol, gan eu cymhwyso i broblemau yn y byd go iawn.
- Gallu gwneud gwahaniaeth gyda’r cwmni rwy’n gweithio iddo.
- Ennill sgiliau sy’n fy ngalluogi i sefyll allan a dod yn arweinydd yn y diwydiant.
Oes unrhyw beth y byddech yn ei ddweud wrth eraill sy’n ymgeisio am y cynllun?
Yn enwedig yn 2020, mae swyddi graddedigion wedi dod yn llawer mwy cystadleuol, ond peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag gwneud cais.
Roedd y tîm P-RC mor gefnogol drwy’r broses ymgeisio (a thu hwnt!) gan wneud y broses yn llawer llai straenus a dwys. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa gyda llawer o gefnogaeth a phrofiad amhrisiadwy mewn maes newydd a chyffrous.