Clifton Private Finance

Helo, Sam ydw i. Rwy’n Uwch-gynghorydd gyda Clifton Private Finance.

Trwy’r Cynllun Graddedigion Menter, penodwyd ein Graddedig cyntaf, Fergus, fel Brocer Cyllid dan Hyfforddiant. Mae Fergus bellach yn Frocer Cwbl Gymwysedig, yn ogystal â chydweithiwr a ffrind gwerthfawr.

Mae’r Cynllun Graddedigion Menter yn “hawdd”

“Os nad yw e wedi torri, peidiwch â’i drwsio! Rhagor o’r un peth os gwelwch yn dda”

Enw’r Busnes:Clifton Private Finance
Lleoliad y Busnes: Caerdydd
Cyswllt y Busnes:  Uwch-gynghorydd, Sam O’Neill
Teitl(au) Swydd y Graddedig: Brocer Cyllid dan Hyfforddiant
Enw’r Graddedig: Fergus Allen

 Ydych chi wedi defnyddio unrhyw gynlluniau graddedigion eraill? (Os felly, faint?)

“Dim ond hwn”

Beth oedd eich meddyliau/teimladau ynghylch derbyn gweithwyr/graddedigion ar gyfer rolau/cynlluniau yn ystod pandemig?

“Yn awyddus iawn i dderbyn graddedigion gan eu bod yn dalent ffres y gallwch eu dysgu fel “llechen lân””

Beth a’ch denodd at y Cynllun Graddedigion Menter?

“Maen nhw’n cymryd y baich gweinyddol oddi arnom”

Pam penderfynoch gymryd rhan yn y Cynllun Graddedigion Menter?

“Roeddem am ddechrau cynllun graddedigion mewnol ac roedd yn ymddangos bod hwn yn mynd law yn llaw â hynny”

Sut bu eich profiad o ddefnyddio’r Cynllun Graddedigion Menter, yn enwedig yn ystod pandemig?

“Da iawn. Roeddent bob amser wrth law i helpu”

A oes unrhyw beth y byddech yn ei ddweud wrth fusnesau eraill sy’n ystyried derbyn graddedigion trwy’r Cynllun Graddedigion Menter?

“Does dim byd i’w golli, dim ymrwymiad. Mae tasgau sy’n cymryd llawer o amser yn cael eu cyflawni gan eraill ac mae am ddim”

Beth fyddai eich cyngor i raddedigion sy’n ceisio sicrhau eu swydd gyntaf? Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau i ni?

“Byddwch yn driw i’ch hun. Mae’n llawer haws adnabod rhywun sy’n ffugio bod yn rhywbeth nad ydyw. Os nad yw cyflogwr eich eisiau fel y person ydych chi, yna nid dyna’r swydd i chi. Peidiwch â gwastraffu amser eich gilydd”

Sut helpodd y cymorth recriwtio eich busnes? Ac a fyddech chi’n gwneud unrhyw newidiadau?

“Dewison ni fynd trwy’r CVs ein hunain gan ein bod yn gwybod am ba nodweddion rydym yn chwilio gan ymgeiswyr ond rhoddwyd yr wybodaeth ar blât i ni, a oedd yn wych”

Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Mentora Byd-eang Cymru? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni o’r mentora sydd ar gael?

“Dim eto”

Dywedwch wrthym am eich profiad o weithio gyda’ch graddedig dros y 6 mis diwethaf? Ac a oeddech chi yn y sefyllfa i estyn ei gontract a/neu ei ddyrchafu?

“Fe wnaethom gynnig contract llawn-amser i Fergus. Mae bellach wedi gwneud ei arholiadau a’i achosion dan oruchwyliaeth ac mae’n frocer cwbl gymwys yn ei rinwedd ei hun.”

Oes gennych chi neges arbennig ar gyfer eich graddedig yr hoffech ei rhannu?

“Fergus oedd y cyntaf o lawer ac mae wedi gosod y bar i bawb ei ddilyn. Roedd yn sefyllfa a allai fod wedi mynd y naill ffordd neu’r llall gan mai Fergus oedd y cyntaf ond allem ni ddim wedi bod yn fwy ffodus na dod o hyd i raddedig, cydweithiwr a ffrind gwych”

A fyddech yn ein hargymell i eraill? Ac a fyddech chi’n ein defnyddio eto?

“Rydym wedi derbyn ein 4ydd graddedig trwy gynllun P-RC, felly byddwn yn gadael i chi ateb hynny!”

Un frawddeg i grynhoi eich profiad o Gynllun Graddedigion Menter…

“Os nad yw e wedi torri, peidiwch â’i drwsio! Rhagor o’r un peth os gwelwch yn dda”

Un frawddeg i grynhoi eich profiad o Gynllun Graddedigion Menter…

“Hawdd”

Other Case Studies

Gareth Davies – Knox & Wells Limited

Liz Knowles – Fulcrum Direct Limited