Stiwdio yng Nghaerdydd yw Cloth Cat Animation, y cwmni cynhyrchu animeiddio mwyaf yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan raddedig o Brifysgol De Cymru ac mae’n parhau i gyflogi a chadw graddedigion talentog ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae eu tîm amryddawn a phrofiadol o gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, artistiaid a thechnegwyr wedi dod ynghyd i rannu eu brwdfrydedd am ddylunio gwych a straeon gafaelgar. Mae Cloth Cat yn bartneriaid cyd-gynhyrchu clodwiw a gellir gweld eu gwaith diweddar ar CBeebies, Disney, Cartoon Network a Netflix, ymhlith eraill.
“Mae’n strwythur sy’n galluogi myfyrwyr a graddedigion i ddatblygu yn y cwmni. I ni, mae ein cysylltiad â’r brifysgol yn allweddol i sicrhau bod myfyrwyr animeiddio o’r safon uchaf ar gael i’n projectau. Rydym am i bobl deimlo eu bod yn rhan o gymuned yma. Rydym yn cefnogi Nosweithiau Animeiddio Caerdydd a gynhelir trwy gydol y flwyddyn ac yn helpu i hyrwyddo Caerdydd fel lle gwych i fyw, astudio a gweithio.”
Jon – Rheolwr Gyfarwyddwr
Ceir mwy o wybodaeth am Cloth Cat yma: