Mae Effective Communication yn un o’r asiantaethau CC a chyfathrebu digidol arweiniol yng Nghymru.
Wedi’i sefydlu gan y cyn olygydd papur newydd Alastair Milburn, mae Effective Communication yn chwilio am raddedigion creadigol ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd sy’n mwynhau creu cynnwys ac yn gwybod sut i gael sylw’r gynulleidfa.
Wedi’i hadeiladu gan dîm o gyn newyddiadurwyr, golygwyr ac arbenigwyr yn y cyfryngau cymdeithasol, mae’r asiantaeth yn cynnig cymorth strategol i helpu i hyrwyddo, amddiffyn a gwella enw da cwmnïau, trwy gyfrwng CC, marchnata digidol a materion cyhoeddus.
Mae Effective Communication wedi gweithio ag amrywiaeth o gwmnïau yn y gorffennol, yn fwyaf diweddar Siambr Masnach De Cymru, Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru, Kidney Wales, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifddinas Ranbarth Caerdydd.
Dywedodd Alastair:
“Mae graddedigion a myfyrwyr yn cael y cyfle i dyfu a chael profiad ym mhob rhan o’r cwmni yn ein hasiantaeth. P’un a ysgrifennu cynnwys neu ffilmio fideos, rydym yn rhoi’r cyfle iddynt brofi amrywiaeth lawn CC a marchnata. Mae ein diwylliant cwmni yn annog pawb i fod yn rhan allweddol o’r tîm a pharhau â’u datblygiad proffesiynol.
“Ac wrth gwrs, mae graddedigion yn dod ag ynni, gwybodaeth a syniadau newydd, a ffordd ffres o feddwl. Mae hyn o fudd i fusnes arloesol fel ein busnes ni ac rydym yn meithrin y dalent cymaint ag y gallwn.”
Dysgwch fwy am Effective Communication yma https://weareeffective.co.uk/