Gareth Davies – Knox & Wells Limited

Helo, Gareth ydw i o Knox & Wells Limited.

Cawsom brofiad “cadarnhaol iawn” yn defnyddio Cynllun Graddedigion Venture. “O safbwynt BBaCh, o ystyried ein diffyg adnodd Adnoddau Dynol mewnol, helpodd yn aruthrol i ddenu a sicrhau’r ymgeisydd cywir.” Credwn fod y cynllun yn “darparu cymorth hanfodol i gynorthwyo eich datblygiad busnes” a “byddem yn bendant yn defnyddio’r cynllun eto.”

 

Dysgwch fwy am ein profiad gyda’r Cynllun Graddedigion Menter yma! (Link Button < this will open the full list of answered case study questions)

Enw’r Busnes:Knox & Wells limited

Lleoliad y Busnes: Caerdydd

Cyswllt y Busnes:  Gareth Davies

Teitl(au) Swydd Graddedig: Peiriannydd Safle Graddedig

Enw’r Graddedig: Sam Phillips

 

Ydych chi wedi defnyddio unrhyw gynlluniau graddedigion eraill? (Os felly, faint?)

“Dim ond y cynllun P-RC.”

Beth oedd eich teimladau ynghylch derbyn gweithwyr/graddedigion ar gyfer rolau/cynlluniau yn ystod pandemig?

“Roeddem wedi ymrwymo cyn y pandemig ac wedi parhau i weithio drwyddo felly roeddem yn ddigon hapus i ymgymryd â graddedigion.”

Beth a’ch denodd at y Cynllun Graddedigion Menter?

“Y gefnogaeth leol a’r cryfder brand sy’n gysylltiedig â’r cynllun.”

Pam penderfynoch gymryd rhan yn y Cynllun Graddedigion Menter?

“Cawsom y manylion drwy gysylltiadau â Chyngor CITB Cymru.”

Sut bu eich profiad o ddefnyddio’r Cynllun Graddedigion Menter, yn enwedig yn ystod pandemig?

“Cadarnhaol iawn”

A oes unrhyw beth y byddech yn ei ddweud wrth fusnesau eraill sy’n ystyried derbyn graddedigion trwy’r Cynllun Graddedigion Menter?

“O safbwynt BBaCh, o ystyried ein diffyg adnodd Adnoddau Dynol mewnol, helpodd yn aruthrol i ddenu a sicrhau’r ymgeisydd cywir.”

Beth fyddai eich cyngor i raddedigion sy’n ceisio sicrhau eu swydd gyntaf? Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau i ni?

Y ffactor a benderfynodd rhwng dau ymgeisydd agos iawn (o ran cymhysterau), oedd positifrwydd yr ymgeisydd llwyddiannus. Roedd yn ymddangos yn awyddus iawn i ddechrau gyda ni.”

Sut helpodd y cymorth recriwtio eich busnes? Ac a fyddech chi’n gwneud unrhyw newidiadau?

“Roedd yn darparu ffocws ac adnodd. Fel BBaCh rydym yn cymryd rhan fawr yn y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd ac mae camau llai uniongyrchol yn cymryd sedd gefn. Gweithiodd cymorth P-RC ochr yn ochr â ni i gynnal momentwm, ni fyddem wedi cyrraedd yno fel arall.”

Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Mentora Byd-eang Cymru? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni o’r mentora sydd ar gael?

“Ydyn. Rydyn ni’n cadw meddwl agored am ei fanteision i ni fel BBaCh lleol.”

A oedd yn broses esmwyth i’ch cyflogai graddedig gwblhau’r cymhwyster ILM? A yw wedi cynyddu eu hyder a’u sgiliau arwain?

“Dim ond effaith gyfyngedig oedd ar argaeledd gwaith y myfyriwr wrth iddo ymgymryd â’r cwrs ILM. Mae wedi datblygu’n dda yn ei flwyddyn gyntaf gyda ni.”

Dywedwch wrthym am eich profiad o weithio gyda’ch myfyriwr graddedig dros y 6 mis diwethaf? Ac a oeddech chi yn y sefyllfa i estyn ei gontract a/neu ei ddyrchafu?

“Mae’r profiad wedi bod yn un cadarnhaol, mae wedi cael ei apwyntio’n aelod llawn amser o staff ac mae yn ein rhaglen ddatblygu.”

A fyddech yn ein hargymell i eraill? Ac a fyddech chi’n ein defnyddio eto?

“Byddem, a byddem yn bendant yn defnyddio’r cynllun eto.”

Un frawddeg i grynhoi eich profiad o Gynllun Graddedigion Venture…

“Ar gyfer BBaCh mae’r cynllun P-RC yn darparu cymorth hanfodol i gynorthwyo eich datblygiad busnes.”

Un gair i grynhoi eich profiad busnes presennol o Gynllun Graddedigion P-RC…

“Cefnogol”

A oes gennych unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?

“Cawsom y wybodaeth gan y cysylltiadau yng Nghyngor CITB Cymru. Dydw i ddim yn siŵr y bydden ni wedi cael gwybod amdano fel arall. Efallai y byddai’n werth edrych ar sut mae’n cael ei hysbysebu?”

Other Case Studies

Liz Knowles – Fulcrum Direct Limited

Clifton Private Finance