Gemma Clissett – Lovell Partnerships

Enw: Gemma Clissett
Swydd Bresennol a Chwmni: Lovell Partnership

Pam penderfynoch gymryd rhan yng Nghynllun Graddedigion P-RC?

Sawl peth mewn gwirionedd! Roeddem wedi hysbysebu ar gyfer graddedigion ar ddechrau’r flwyddyn ac roedd lefel yr ymgeiswyr yn foddhaol, ond roedd rhai â chymwysterau rhy uchel ac nid yn union yr hyn yr oeddem yn chwilio amdano mewn cynllun i raddedigion. Clywsom am gynllun PRC ac roedd y synergedd rhwng ein ddau fusnes yn wych. Ein bwriad ni yw chwilio am bobl talentog ifanc sy’n dod i’r farchnad ac rydyn ni eisiau cadw’r talent yn ein busnes, ac mae hyn yn debyg iawn i gynllun graddedigion P-RC – cadw pobl yng Nghymru sydd eisiau aros yma.

Pam y dylai busnesau eraill ystyried cymryd graddedigion drwy gynllun Graddedigion P-RC?

Ewch amdani! Mae hi wedi bod yn anhygoel, mae’r bobl sy’n gweithio’n rhan o’r cynllun yn hynod frwdfrydig am yr hyn a wnânt, roedd y profiad cyfan yn wych i ni. Roedd lefel y diddordeb yn eithriadol uchel – am un rôl, roedd 34 o ymgeiswyr gennym ni! Yn ein barn ni, cafodd y swydd ei thargedu gan y prifysgolion iawn, ac roedd y broses asesu, y fetio, ac mewn gwirionedd cael delio gyda’r ymgeiswyr i gyd, yn brofiad anhygoel, roedd yn brofiad da iawn.

Other Case Studies

Gareth Davies – Knox & Wells Limited

Liz Knowles – Fulcrum Direct Limited