Graeme Hendry, Arweinydd Tîm Ansawdd, Is-adran Cyfarpar Cartref, Panasonic Manufacturing UK Ltd

Enw: Graeme Hendry
Swydd Bresennol a Chwmni: Arweinydd Tîm Ansawdd, Is-adran Cyfarpar Cartref, Panasonic Manufacturing UK Ltd.

Pam penderfynoch chi gymryd rhan yng Nghynllun Graddedigion P-RC?

Rydym wedi cael profiad cymysg o recriwtio graddedigion technegol yn y gorffennol ac roedden ni eisiau rhoi cynnig ar ymagwedd wahanol y tro hwn. Rhoddodd y broses ryng-gynllun a gynigiwyd gan y cynllun fwy o hyblygrwydd i ni asesu ymgeiswyr cyn ymrwymo i swydd barhaol.

Pam dylai busnesau eraill ystyried cymryd graddedigion drwy gynllun Graddedigion P-RC?

Mae gan y cynllun fynediad at raddedigion na fyddent fel arall ar gael i gyflogwyr ar eu pennau eu hunain. Cymerodd ei staff profiadol amser i ddeall y fanyleb swydd a’r sefydliad. Roedd yr asesiad cyn-dewis yn seiliedig ar y cyd-ddealltwriaeth gan ein rhyddhau i ganolbwyntio ar ymgeiswyr perthnasol. Cafodd cwrs rheoli sylfaenol ei gynnwys ar gyfer pob person graddedig heb unrhyw gost ychwanegol.

Oes gennych unrhyw gyngor i bobl sydd wedi graddio yn ddiweddar ac yn ceisio cael ei swydd gyntaf?

Mae paratoi at gyfweliad yn allweddol; gwnewch ymchwil i’r cyflogwr a gwirio’r disgrifiad swydd. Parwch eich sgiliau â’r swydd a gweithgareddau’r cyflogwr. Esboniwch sut y gallwch gyfrannu at fusnes y cyflogwr.

Other Case Studies

Gareth Davies – Knox & Wells Limited

Liz Knowles – Fulcrum Direct Limited