Hi, Liz ydw i o Fulcrum Direct Limited.
Cawsom brofiad “cadarnhaol iawn” yn defnyddio Cynllun Graddedigion Menter. “Mae’n bendant yn llwybr da i fynd” i fusnesau sy’n ystyried cyflogi graddedigion.
Dysgwch fwy am ein profiad gyda’r Cynllun Graddedigion Menter yma! (Link Button < this will open the full list of answered case study questions)
Enw’r Busnes:Fulcrum Direct Limited
Lleoliad y Busnes: Caerdydd
Cyswllt y Busnes: Liz Knowles
Teitl(au) Swydd Graddedig: Gwaith Project
Ydych chi wedi defnyddio unrhyw gynlluniau graddedigion eraill? (Os felly, faint?)
“Ydw, Interniaethau Santander a Go Wales”
Beth oedd eich teimladau ynghylch derbyn gweithwyr/graddedigion ar gyfer rolau/cynlluniau yn ystod pandemig?
“Dim problem, gellir gwneud y math o waith rydym yn ei wneud o bell.”
Beth a’ch denodd at y Cynllun Graddedigion Menter?
“Cawsom ein cyfeirio at y cynllun drwy PDC. Yr atyniad yw ei gwmpas eang.”
Pam penderfynoch gymryd rhan yn y Cynllun Graddedigion Menter?
“Roedd angen i ni recriwtio staff ac mae recriwtio graddedigion bob amser wedi bod yn llwyddiannus iawn i ni.”
Sut bu eich profiad o ddefnyddio’r Cynllun Graddedigion Menter, yn enwedig yn ystod pandemig?
“Roedd yn dda. Oherwydd bod y pandemig yn golygu na allem gwrdd ag unrhyw un wyneb yn wyneb roedd ambell gwestiwn cychwynnol ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am beth ond roedd y rhain yn cael eu datrys ac roedd safon yr ymgeiswyr yn dda.”
A oes unrhyw beth y byddech yn ei ddweud wrth fusnesau eraill sy’n ystyried derbyn graddedigion trwy’r Cynllun Graddedigion Menter?
“Mae’n bendant yn llwybr da i’w ddilyn.”
Beth fyddai eich cyngor i raddedigion sy’n ceisio sicrhau eu swydd gyntaf? Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau i ni?
“Paratowch! Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod cymaint am y cwmni a’r swydd â phosibl. Byddwch hefyd yn barod i ddweud pam rydych yn addas iawn ar gyfer y rôl sydd ar gael a’r hyn y byddech yn ei gyfrannu.”
Sut helpodd y cymorth recriwtio eich busnes? Ac a fyddech chi’n gwneud unrhyw newidiadau?
“Wedi hysbysebu ein swyddi gwag i gynulleidfa eang a helpu i sicrhau bod gennym ymgeiswyr perthnasol.”
A fyddech yn ein hargymell i eraill? Ac a fyddech chi’n ein defnyddio eto?
“Byddwn, a byddwn!”
Un frawddeg i grynhoi eich profiad o Gynllun Graddedigion Menter…
“Cadarnhaol iawn…”