Enw: Mandy Mardell
Swydd Bresennol a Chwmni: Cyfarwyddwr MagManager
Pam penderfynoch gymryd rhan yng Nghynllun Graddedigion P-RC?
Rydym ni wedi bod yn chwilio am berson newydd raddedig i ymuno â MagManager ers tipyn. Mae’r busnes yn tyfu’n gyflym iawn ac roedd dod o hyd i berson newydd raddio yn edrych fel tasg bron amhosibl oherwydd ein bod yn gweithio mor galed ar y busnes. Darllenais am gynllun P-RC a sylweddolais ei fod yn gyfle y gallen ni wir ei ddefnyddio ac y byddan nhw’n ein helpu i ddod o hyd i berson newydd raddedig sy’n iawn i ni, gan wneud llawer o waith yn hysbysebu’r swydd ac yn helpu gyda’r cyfweliadau.
Pam y dylai busnesau eraill ystyried cymryd graddedigion drwy gynllun Graddedigion P-RC?
Mae’r cynllun wedi bod yn rhagorol i ni, gan ddod o hyd i raddedig o safon dda iawn, nid oedd gennym ni yr amser na’r wybodaeth/cysylltiadau i allu gwneud hyn ein hunain. Byddwn yn argymell yn gryf i unrhyw fusnes ystyried graddedigion drwy gynllun P-RC.
A oes gennych unrhyw gyngor i bobl sydd wedi graddio yn ddiweddar ac yn ceisio sicrhau ei swydd gyntaf?
Chwiliwch am fwy na chwmnïau mawr. Rydym ni’n fusnes bach ond yn tyfu’n gyflym iawn ac rydym yn cynnig cyfle gwych i wneud llawer o wahanol rolau na fyddai cyfle eu gwneud mewn sefydliad mawr.