Pam penderfynoch chi gymryd rhan yng Nghynllun Graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd?
Roedd ychydig o brif resymau dros ystyried y Cynllun Graddedigion. Y cyntaf oedd cost. Fel gyda phopeth ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am ffyrdd o gadw costau i lawr fel y gallwn wario arian lle mae ei angen. Roedd defnyddio Cynllun Graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn hytrach na recriwtwyr traddodiadol yn un ffordd y gallem wneud hynny a dal cael ymgeisydd gwych. Roeddem hefyd am gael mwy o fynediad i’r farchnad. Roedd Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gallu ymgysylltu â’u cyswllt a dylanwadu arno i ddenu graddedigion diweddar o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a’r Brifysgol Agored.
Pam dylai busnesau eraill ystyried cymryd graddedigion trwy Gynllun Graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd?
Y prif reswm dros logi graddedigion yw nad ydynt wedi bod ‘rownd y bloc’. Yn fy mhrofiad i, cyn belled â’ch bod yn barod i fuddsoddi’r amser, gall rhywun sydd newydd raddio fod yn hawdd ei siapio i’r hyn sydd ei angen arnoch. Maen nhw’n dod yn rhan annatod o ddiwylliant eich sefydliad ac nid oes rhaid iddynt ddad-ddysgu unrhyw arferion gwael na ‘hen ffyrdd’ o wneud pethau. Mae llawer o raddedigion wedi astudio sgiliau busnes fel rhan o’u cwrs ac yn awyddus i ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddynt mewn busnes ‘byd go iawn’. Mae hyn yn wych i’r person graddedig gan ei fod yn cael cyfle i ddysgu ond byddwch chi, fel y cyflogwr, hefyd yn elwa o safbwyntiau newydd a sgiliau arbenigol neu dechnegol cyfredol sy’n cael eu haddysgu yn y brifysgol. Y fantais arall yw y bydd llawer yn gyfforddus gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ac y byddant yn gallu cynnig rhagor o enillion ar fuddsoddiad neu arbedion cost gan y gallant ddefnyddio technoleg yn rhwydd a rhoi dulliau awtomeiddio ar waith lle nad oedd yn bosibl o’r blaen.
Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd yn bwysig. Yn aml gall person graddedig sy’n fodlon ac wedi’i hyfforddi’n dda aros mewn sefydliad am flynyddoedd, gan amsugno’r holl wybodaeth am bynciau gyda’r potensial i fod yn arweinydd gweithgar yn eich sefydliad yn y blynyddoedd i ddod.
Oes gennych unrhyw gyngor i bobl sydd wedi graddio yn ddiweddar ac sy’n ceisio dod o hyd i’w swydd gyntaf?
Fy nghyngor i raddedigion diweddar sy’n ceisio dod o hyd i’w swydd gyntaf fyddai cofio nad yw pawb yn profi’r un daith. Er gallai eich ffrindiau ac aelodau eraill o’ch carfan ddod o hyd i’w ‘swydd ddelfrydol’ yn ddidrafferth, bydd cymharu eich hun â nhw yn achosi gofid a straen. Mae’n iawn gwneud camgymeriadau. Mae’n iawn gadael swyddi nad ydynt yn eich gwneud yn hapus nac yn eich datblygu.
Gwnewch argraff gyntaf dda – mae hyn mor bwysig. Gofynnwch i’ch darpar gyflogwr beth yw eu cod gwisg, hyd yn oed os yw’r cyfweliad dros Zoom neu Teams. Gofynnwch iddynt ba dechnolegau maen nhw’n eu defnyddio a threuliwch ychydig o amser yn ymchwilio i sut y gellir defnyddio’r technolegau hynny yn eu sector.
Pan fyddwch yn bachu’r swydd honno, cofiwch fod eich cydweithwyr a’ch rheolwyr yn bobl a’u bod hefyd yn dysgu (neu y dylen nhw fod). Mae’n iawn gofyn iddyn nhw esbonio’r broses neu’r darn o waith eto. Dywedwch wrthyn nhw pan nad ydych chi’n deall rhywbeth; yn aml bydd yn eu helpu nhw cymaint â chi.
Nawr yn fwy nag erioed mae’n bwysig gofalu am eich iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac yn fy mhrofiad i mae’r rhain yn mynd law yn llaw. Ewch i redeg neu feicio, rhowch gynnig ar lawer o weithgareddau iach, dysgwch beth sy’n gweithio i chi ac sy’n rhywbeth rydych yn ei fwynhau. Byddwch yn diolch i chi’ch hun ymhen 10 mlynedd!