Quantum Advisory

Mae Quantum Advisory, gyda’n prif swyddfa yng Nghaerdydd, yn ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a budd-dal gweithwyr sy’n seiliedig ar atebion i gyflogwyr, ymddiriedolwyr ac aelodau cynllun.

Rydym yn ymfalchïo yn y gwaith o ddatblygu ac uwchsgilio staff. Rydym yn caniatáu i raddedigion ddatblygu eu sgiliau ac ennill y profiad a’r cymwysterau i gael eu cydnabod mewn amrywiaeth o feysydd h.y. actiwarïaid, cynghorwyr buddsoddi, ymgynghorwyr pensiwn a chyfrifwyr.

Ein diwylliant yw uwchsgilio staff i ddatblygu sgiliau a helpu i gadw staff. Mae’r amgylchedd proffesiynol yn Quantum yn darparu sylfaen hyfforddi ardderchog ar gyfer graddedigion ac mae’r graddedigion eu hunain yn cynnig brwdfrydedd, egni a syniadau arloesol.

Defnyddiwyd Cynllun Graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd i recriwtio Toni Edwards fel cynorthwyydd cyfrifon. Graddiodd Toni o Brifysgol Caerdydd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifeg a Chyllid. Bydd Toni yn dechrau ei chynllun hyfforddi o fewn y tîm cyllid ynghyd ag astudio ar gyfer Cymhwyster Cyfrifeg Siartredig ICAEW, yr ACA, ac mae ganddi’r potensial i ddod yn Gyfrifydd Siartredig o fewn tair blynedd, gan ennill cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang, sy’n cael ei werthfawrogi ledled y byd ym maes busnes, mewn practis preifat ac yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd Suzy Lloyd, Rheolwr Ariannol Quantum:

“Mae graddedigion yn rhoi ysgogiad newydd i’r tîm, ac mae’r aelodau staff presennol yn cael cyfle i hyfforddi a dirprwyo i’r graddedigion newydd ar yr un pryd â chynyddu eu cyfrifoldebau eu hunain. Mae’r staff presennol yn cael gwefr wirioneddol drwy drosglwyddo eu gwybodaeth a gweld staff yn datblygu. Mae’r brwdfrydedd a’r syniadau arloesol y mae’r graddedigion newydd yn eu rhannu â’r tîm yn braf “.

Other Case Studies

Gareth Davies – Knox & Wells Limited

Liz Knowles – Fulcrum Direct Limited