Enw: Sam O’Neill
Swydd Bresennol a Chwmni: Uwch Frocer Cyllid yn Clifton Private Finance
Pam penderfynoch gymryd rhan yng Nghynllun Graddedigion P-RC?
Rydym wedi cynnal cynllun graddedigion tebyg yn ein swyddfa ym Mryste ac wrth agor swyddfa yng Nghaerdydd ym mis Ionawr, roedd yn edrych fel cyfle gwych i ymestyn.
Pam y dylai busnesau eraill ystyried cymryd graddedigion drwy gynllun Graddedigion P-RC?
Mae pawb ar eu hennill. O safbwynt masnachol rydych yn cael dalen wag sy’n dod i’r cwmni, yn awyddus ac yn barod i ddysgu. O safbwynt y graddedig, byddwch yn mynd yn syth i mewn i’r amgylchedd gwaith ond gyda chymorth ychwanegol. Mae’r diwrnod asesu yn rhoi cyfle gwerthfawr i weld eich ymgeiswyr yn gweithredu cyn cyfweliad.
A oes gennych unrhyw gyngor i bobl sydd wedi graddio yn ddiweddar ac yn ceisio sicrhau ei swydd gyntaf?
Achubwch ar bob cyfle sydd gennych i ddatblygu eich hun. Yn aml, bydd hyd yn oed y profiadau gwael yn troi’n stori dda!