Hysbysiad Preifatrwydd
Pam rydym yn anfon yr hysbysiad hwn atoch
Nod Rhaglen Graddedigion Venture Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw darparu cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion, datblygiad proffesiynol a chyfleoedd rhwydweithio i chi.
Cefnogir y Rhaglen Venture gan Gyngor Dinas Caerdydd sy’n gweithredu fel y rheolwr data wrth brosesu eich gwybodaeth bersonol, felly caiff eich data ei brosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Pholisïau Diogelu Data Cyngor Caerdydd.
Mae Rhaglen Graddedigion Venture yn dibynnu ar eich cydsyniad i brosesu eich data personol er mwyn cynnig y gwasanaethau yr ydych wedi dewis eu derbyn.
Mae’r hysbysiad hwn, felly, wedi’i greu i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut yr ydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau ynghlwm ag ef, a’r dulliau diogelu sydd yn eu lle i’w amddiffyn.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn ei gael
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch er mwyn gallu cynnig y gwasanaethau recriwtio sydd ar gael trwy’r Wefan a’r Rhaglen Graddedigion Venture. Gall y data personol a gasglwn amdanoch gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;
- Gwybodaeth adnabod megis Enw a Chyfeiriad
- Manylion cyswllt megis E-bost a Rhif Ffôn
- Gwybodaeth ymgeisio gan gynnwys Hawl i Weithio, Profiad Gwaith Addysg, Gwybodaeth Ategol, a Gwybodaeth Geirdaon
- Data Anabledd – mae hyn i’ch cefnogi gydag addasiadau yn ystod y broses ymgeisio.
Sut y byddwn yn defnyddio’ch data personol
Byddwn yn defnyddio eich data personol i’n helpu ni wrth roi’r gwasanaethau i chi yr ydych wedi cytuno eu derbyn. Gallai hyn gynnwys prosesu eich data personol ar gyfer rhai neu bob un o’r dibenion canlynol;
- Cynnig gwasanaethau recriwtio a rhwydweithio i chi
- Cysylltu â chi am gyfleoedd gwaith, profi a chyfweliadau.
- Gwirio eich cynnydd yn ystod ac wedi’r cynllun.
- Eich cofrestru ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Gyrfa Venture gyda Darparwyr Prifysgolion wedi’u penodi.
- Asesu cymhwysedd ar gyfer ein gwasanaethau
- At ddibenion ystadegol
- At ddibenion marchnata (dim ond os ydym wedi cael eich cydsyniad).
- Rhannu eich data gyda Sefydliadau Cyflogi.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei rhannu ar sail cydsyniad â Sefydliadau perthnasol sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Graddedigion Venture. Mae hyn yn ein galluogi i gefnogi sefydliadau â’u prosesau recriwtio a’ch helpu chi ar eich siwrne cyflogaeth.
Drwy ddarparu eich cydsyniad i ni, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei rannu gyda sefydliadau partner recriwtio Venture, Gradcore, Loxo a Test Gorilla. Bydd y sefydliadau partner hyn yn cysylltu â chi fel rhan o’r broses recriwtio ac ymgeisio Venture.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r sefydliadau hyn yn prosesu eich data, ewch i;
Am ba hyd y byddwn yn cadw’r data
Bydd Cynllun Graddedigion PRC yn cadw eich data gyhyd ag sydd ei angen i fodloni unrhyw ofynion deddfwriaethol ac ymrwymiadau o ran gwasanaeth i chi.Mae hyn yn cynnwys pan na fyddwch yn derbyn y gwasanaeth mwyach er mwyn ein cynorthwyo ag ymholiadau yn y dyfodol.
https://www.testgorilla.com/terms/privacy-policy/.
https://loxo.co/privacy-policy.
Mae Sefydliadau/Cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Graddedigion Venture newid yn rheolaidd, fodd bynnag bydd eich data ond yn cael ei rannu lle bo’n berthnasol ac angenrheidiol ar sail eich cydsyniad felly byddwch yn ymwybodol â phwy y rhennir eich data personol cyn i hyn ddigwydd.
Am ba hyd y byddwn yn cadw’ch data
Bydd Rhaglen Graddedigion Venture yn cadw eich data gyhyd ag sydd ei angen i fodloni unrhyw ofynion deddfwriaethol ac ymrwymiadau o ran gwasanaeth i chi. Mae hyn yn cynnwys pan na fyddwch yn derbyn y gwasanaeth mwyach er mwyn ein cynorthwyo ag ymholiadau yn y dyfodol.
Ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi llwyddo i ennill lle gydag un o gyflogwyr Rhaglen Graddedigion Venture, byddwn yn dal eich data am gyfnod o flwyddyn at ddibenion gwerthuso ac er mwyn dal gwybodaeth ynghylch eich cynnydd yn y lleoliad. Wedi’r cyfnod hwn, bydd eich data personol yn cael ei wneud yn ddienw at ddibenion ystadegol.
Ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cydsynio i gael eu paru â swyddi newydd, byddwn yn dal eich gwybodaeth am gyfnod o 6 mis.
Caiff pob data personol ei ddinistrio yn ddiogel yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.
Eich Hawliau
Fel testun data, mae gennych lawer o hawliau yn gysylltiedig â’ch data personol. Mae hyn yn cynnwys:
- Hawl i gael mynediad
- Hawl i gywiro
- Hawl i ddileu
- Hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. Mae gennych hefyd yr hawl i gofnodi cwyn yn ymwneud â’n gweithgareddau prosesu gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy’r wefan isod neu eu llinell gymorth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau neu gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ; neu drwy eu llinell gymorth 03031231113.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth ar sut y byddwn yn prosesu eich data, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar y manylion isod am wybodaeth bellach.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar gyfer prosesu ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r Swyddog Diogelu Data yn ysgrifenedig.