Cynllun Graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn profi ei werth yn y Sector Tai

Dros yr haf mae Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi gweithio gyda thair cymdeithas dai – Grŵp Pobl, Tai Cymunedol Bron Afon a Chymdeithas Tai Sir Fynwy – i benodi graddedigion yn llwyddiannus mewn amrywiaeth o rolau.

O gael mynediad i gronfa eang o raddedigion dawnus i leddfu baich recriwtio, mae’r sefydliadau hyn i gyd wedi profi manteision defnyddio’r gwasanaeth i ddod o hyd i’r ymgeisydd priodol. Beth oedd ganddynt i’w ddweud am y Cynllun Graddedigion?

Pobl yw’r gymdeithas dai fwyaf yn Ne Cymru. Mae’n gweithio ar draws llawer o sectorau: gofal a chymorth, tai, gwasanaethau masnachol a chorfforaethol. Yn Pobl, mae’r staff yn credu bod gyrfa i bawb ac maen nhw’n awyddus i haeru nad gyrfa o “fân swyddi” yn unig sydd dan sylw ond gyrfa y byddwch yn gallu dysgu a thyfu ynddi. Fel cwmni maen nhw’n ymfalchïo mewn amrywiaeth ac yn gwneud gwahaniaeth; eu harwyddair yw ‘rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl’ ac mae hynny’n gyson ar draws eu holl gyfarwyddiaethau. Mae gan eu busnes fwy na 2,500 o staff ar draws y wlad, gan amrywio o Sir Benfro i Sir Fynwy a hyd at Bowys.

Dywedodd Chris Hodge, Uwch Bartner Busnes Recriwtio yn Pobl, a wnaeth y penderfyniad i hysbysebu rôl y Cyfrifydd Dan Hyfforddiant drwy Gynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, eu bod, ers gweithio gyda ni, wedi cael nifer mawr o geisiadau o safon uchel iawn sydd wedi bod yn wych. Dywedodd Chris, “Gofynnwyd am 2:1 a oedd yn ymwneud â chyllid ar gyfer y rôl benodol hon. Roedd yn wych cael cynifer o raddedigion o safon uchel o’r cychwyn cyntaf. I ddechrau, roeddem yn bwriadu cael asesiad undydd ond oherwydd y nifer mawr o geisiadau, rydym yn gwneud dau gam lle gwelwn nifer mawr i ddechrau ac yna’n gostwng i bump yn unig am yr ail ddiwrnod. Mae wedi ein gorfodi i ehangu oherwydd yr ansawdd.”

Pam gweithio gyda Phrifddinas-ranbarth Caerdydd?

“Un o’r rhesymau y dewison ni weithio gyda Phrifddinas-ranbarth Caerdydd yw’r gronfa o ymgeiswyr sydd gennych. Rydych chi’n gweithio ar draws y prifysgolion, felly mae bron yn gronfa barod o raddedigion ar draws y rhanbarth. Roeddwn yn edrych ar y farchnad ac roedd cwmni sy’n gwneud yr un peth â Phrifddinas-ranbarth Caerdydd ond byddai wedi codi £4,000 y lleoliad ac mae’n rhaid i hynny ddod o gyflog y cyflogwr neu gyflogau’r graddedigion. Mae eich model yn cael gwared ar yr angen am hynny. Byddwn yn asesu’r cam cyntaf yr wythnos nesaf ac yna’n symud ymlaen i’r cam olaf. Yna, maen nhw’n dechrau’r SARh gyda ni yn fuan wedyn. Doedd dim penbleth o ran a ddylen ni ymuno â chi neu beidio. Dylai cwmnïau feddwl yn ofalus am ba rôl y gallent ei chreu i raddedigion o fewn eu strwythur corfforaethol neu ba rôl y maent yn methu â recriwtio ar ei chyfer ar hyn o bryd ac yna gallech helpu i lenwi’r bwlch hwnnw gyda rhywun sydd newydd adael y brifysgol.”

Mae Tai Cymunedol Bron Afon wedi bod yn buddsoddi mewn pobl, cartrefi a chymunedau yn Nhorfaen ers 2008. Maent yn cael eu rhedeg gan eu staff a’u haelodau sydd wrth eu boddau o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae eu gwaith yn cynnwys adeiladu, adfywio cymunedol, cymorth a mwy. Trwy Fuddsoddi yn eu cymuned leol, maen nhw’n credu eu bod yn gallu gwella bywydau a lles pobl Torfaen wrth greu a sicrhau cyflogaeth barhaol. Dros y blynyddoedd maent wedi bod yn falch o ddatblygu prentisiaid a hyfforddeion ar ddechrau eu bywydau gwaith ac wedi helpu i roi hwb cychwynnol i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.

Pam gweithio gyda Phrifddinas-ranbarth Caerdydd?

Roedd Michael Bailey, Rheolwr Gwybodaeth Fusnes Bron Afon, yn chwilio am Swyddog Gwybodaeth Busnes Iau Graddedig a dywedodd eu bod wedi dewis Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddechrau oherwydd “roeddem mor awyddus i weithio gyda chi gan fod cadw talent yn Ne Cymru yn cyd-fynd â’n hegwyddorion craidd. O’r cychwyn cyntaf roedd yn hawdd gweithio gyda’r tîm; mewn gwirionedd, fe wnaethant ysgafnhau’r rhan fwyaf o’r baich recriwtio! Y cyfan y bu’n rhaid ei wneud i ddechrau oedd cyfarfod cyflym wyneb yn wyneb i amlinellu’r hyn roedd ei angen arnom ac yna bant â nhw, gan fanteisio ar eu cysylltiadau â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a graddedigion lleol y Brifysgol Agored – mantais nad oedd gennym ni. Cawsom geisiadau gan raddedigion â phob math o gefndiroedd a sgiliau ac roedd hyn yn rhoi cyfle da i ni ystyried y tîm a’r cydweddiad diwylliannol a phenodi unigolyn rhagorol a fydd yn bendant yn cael effaith ar ein busnes.”

Sefydlwyd Cymdeithas Tai Sir Fynwy gyda 240 o staff Cyngor Sir Fynwy i helpu i ariannu datblygiad tai yn y Sir. Y rôl benodol a oedd yn destun eu gwaith gyda Phrifddinas-ranbarth Caerdydd oedd Syrfëwr Hyfforddeion Graddedig. Mae ethos cryf i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu i ychwanegu at eu cymwysterau yn y dyfodol. Roedd y cynllun hwn yn darparu popeth yr oedd ei angen arnom i ddatblygu’r math hwn o rôl. Ar gyfer yr un swydd wag hon yn Sir Fynwy, cafwyd 47 o geisiadau. Roedd Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gallu rhoi rhestr fer o 13 yn gadael Sir Fynwy a oedd yn gallu parhau â’r proses ddethol wedi hynny.

Dywedodd Karen Peploe, Pennaeth Adnoddau Dynol a Hyfforddiant Tai Sir Fynwy, “Pe baem yn gwneud hyn ar ein pennau ein hunain, nid wy’n siŵr y byddem wedi cael niferoedd mor uchel o ymgeiswyr. Denodd gronfa fwy o ymgeiswyr gan ein galluogi i lunio rhestr fer ragorol. Yn benodol, roeddem yn chwilio am bobl a oedd wedi cwblhau eu cymhwyster RICS. Roedden ni’n dibynnu ar Laura o dîm graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd i lunio rhestr fer o ymgeiswyr nad oeddent yn bodloni’r meini prawf cywir yn unig, gan gynnwys cymhwyster RICS, ond yr oedd ganddynt hefyd y doniau personol i lwyddo yn y cynllun hyfforddeion hwn.”

Gweithio gyda Chynllun Graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd

Ychwanegodd Rhiannon Newell, Swyddog Adnoddau Dynol Dan Hyfforddiant, Tai Sir Fynwy, “Mae cefnogaeth gyffredinol tîm Prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn wych. Mae’r cyfathrebu wedi bod yn arbennig. Maen nhw wedi bod yn hyblyg – roedd rhaid i ni wneud llawer o’r broses hon yn ystod y cyfnod cloi a bu’n rhaid i ni fod yn hyblyg ac mae tîm Prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod mor gefnogol a rhagweithiol ac wedi gwirio bod y broses wedi gweithio i ni. Un o’r pethau mawr wnaeth ein denu i’r cynllun yw datblygiad rheoli a bydd ein graddedigion yn rhan o rwydwaith mawr o bobl o’r un meddylfryd sy’n astudio’r cymhwyster SARh. Mae rhwydwaith cymorth mawr o bobl y gall ein graddedigion gysylltu â nhw yn fantais wych o ran cynnig y SARh fel rhan o’n cynllun hyfforddeion. Maen nhw’n ennill cymhwyster rheoli. Mae hynny’n dipyn o beth yn y farchnad gynyddol gystadleuol sydd ohoni heddiw. Yn ogystal, symudodd Phillip, ein gŵr gradd, o Newcastle yn ôl i’w deulu yn Nhrefynwy oherwydd y rôl hon, felly rydym yn falch o allu cynnig cyfle fel hyn ac mae’n amlwg ei fod yn meddwl llawer am y rôl. Rydym yn cynnal rhaglenni hyfforddeion eraill yn y sefydliad ac yn sgil llwyddiant Phillip, byddem yn awyddus iawn i ddefnyddio cynllun graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd eto.”

“Roedd yn wych gweithio gyda Dinas-ranbarth Caerdydd wrth wneud ein penodiad diweddar. Yng Nghymdeithas Tai Sir Fynwy, credwn yn gryf mai’r dull dinas-ranbarth yw’r ffordd ymlaen a phenderfynon ni’n gynnar i fabwysiadu hwn er mwyn helpu i hybu ei lwyddiant. Edrychwn ymlaen at benodiadau pellach a chydweithio â’r Ddinas-ranbarth yn y dyfodol.”  John Keegan, Prif Weithredwr, Cymdeithas Tai Sir Fynwy.

Meddai Phillipa Knowles, Cyfarwyddwr Pobl a Busnes yn Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym wedi clywed dro ar ôl tro gan bobl sy’n gweithio ym maes tai, eu bod wedi ‘syrthio’ i’w swyddi, ond rydym yn gwybod bod dros 100 o wahanol fathau o rolau ar gael sy’n arwain at yrfaoedd hir a boddhaus ym maes tai, gan gynnwys TG, cyllid, arloesi a chyfathrebu. Trwy gydweithio â Chynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd cymdeithasau tai yn Ne Cymru yn gallu denu hyd yn oed mwy o dalent fawr i’r sector, gan gynnig profiad gwaith â thâl i raddedigion sy’n dymuno gweithio mewn sefydliad amrywiol lle gallant wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Pan sefydlwyd y llwyfan This is Housing ar draws y sector, ein nod oedd tynnu sylw at gyfleoedd gyrfa ar draws y sector. Mae’r cydweithrediad hwn â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ffordd wych arall o gyflawni hynny.”

Efallai nad yw graddedigion wedi ystyried na hyd yn oed sylweddoli’r cyfleoedd helaeth ac amrywiol yn y sector tai a’r cyfle y gallai ei roi iddynt ddatblygu eu sgiliau. Yn yr un modd, trwy weithio gyda Chynllun Graddedigion Prifddinas-ranbarth Caerdydd, gall cymdeithasau tai sicrhau bod graddedigion yn ymwybodol o’u cyfleoedd a denu ceisiadau o safon uchel.

Os ydych chi neu’ch sefydliad yn ehangu neu’n addasu a bod angen cymorth ychwanegol arnoch i recriwtio graddedigion o safon, yna mae’n amser i ystyried cymryd rhan yng Nghynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ewch i’r wefan i fynegi eich diddordeb neu cysylltwch â laura.carter@caerdydd.gov.uk / geraldine.osullivan@caerdydd.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Share:

Share on twitter
Share on facebook
Share on linkedin

Related Articles

Gallwch nawr Fentro’r Iaith Gymraeg

Pam ddylai’r ganolfan sgiliau Venture fod y lle i fynd ar gyfer cyflogwyr P-RC…

Sut y gall cyflogwyr sicrhau’r graddedigion gorau o 13 Medi – yn gyflym, yn fedrus ac am ddim.