Gallwch nawr Fentro’r Iaith Gymraeg

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi heddiw cydweithrediad rhwng Venture Graddedigion a Dysgu Cymraeg Caerdydd i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

O’r 1af o Fawrth, byddwn yn cynnig y cyfle i raddedigion Venture i ddysgu Cymraeg ac ennill sgiliau iaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi eu gyrfaoedd – gan roi sgil iaith werthfawr i’n gweithwyr graddedig, a helpu i warchod a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Bydd y cynnig newydd cyffrous hwn yn cael ei ychwanegu fel rhan o’n Rhaglen Cyflymu Gyrfa – gyda darpariaeth ar gyfer pum lefel o allu iaith – felly os ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu’n siaradwr Cymraeg rhugl sydd efallai wedi colli ychydig o hyder ieithyddol, mae’r llwybr dysgu hwn ar eich cyfer chi!

Mae Leanna Davies, Swyddog Datblygu Graddedigion Venture, wrth ei bodd i allu cynnig y dimensiwn newydd hwn i’r Rhaglen Cyflymu Gyrfa:

“Rydym yn gyffrous iawn i ychwanegu’r cynnig hwn i’r Rhaglen Cyflymu Gyrfa gan ei fod yn gyfle gwych i bobl ddysgu Cymraeg a chofleidio diwylliant unigryw. Rydym hefyd yn hapus iawn i fod yn cydweithio gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd i wneud y Gymraeg yn fwy hygyrch i’n graddedigion – a gobeithio cynyddu’r defnydd o’r iaith yn y rhanbarth.”

Rydyn ni’n credu y dylid dathlu’r Gymraeg – ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd – felly rydyn ni’n llwyr gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

A dyna pam y byddwn yn gwahodd ac yn annog POB UN o Raddedigion Venture i gofrestru gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd. Peidiwch â cholli’r cyfle anhygoel hwn i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol! Darganfyddwch fwy (a phori trwy ein swyddi presennol) yma:

Chwilio Swyddi i Raddedigion – Venture (venturewales.org)

 

Share:

Share on twitter
Share on facebook
Share on linkedin

Related Articles

Bŵtcamp Venture yn lansio 50 o raddedigion i ddiwydiannau technoleg

Sut i fod ar eich gorau mewn Bwtcamp

Stori Llwyddiant TrakCel: Meithrin Talent Newydd gyda Graddedigion Venture