Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn lansio ‘Venture’ i helpu i lunio dyfodol datblygu sgiliau ledled De-ddwyrain Cymru

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cyhoeddi lansio canolfan Sgiliau a Doniau newydd, a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion sgilio cyflogwyr a gweithwyr y dyfodol ledled De-ddwyrain Cymru.

 

A hithau â’r enw brand Venture’, daw’r fenter gyflogaeth a sgiliau newydd hon yn weithredol ar y 13eg o Fedi, i helpu i gysylltu uchelgais a dyheadau pobl sy’n chwilio am yrfa a chyflogwyr ledled y 10 awdurdod unedol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Ar gyfer y lansio, mae’r ganolfan sgiliau newydd yn cynnwys Venture Graduate, sef cynllun recriwtio graddedigion sydd wedi’i ail-frandio, ei ailgynllunio a’i adfywio a ddarperir yn rhad ac am ddim i unrhyw sefydliad yn Ne-ddwyrain Cymru gan y tîm recriwtio arbenigol mewnol arbenigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Mae nodweddion newydd yn cynnwys cyflwyno model o garfan strwythuredig fydd yn weithredol fel 3 rhaglen wahanol drwy gydol y flwyddyn – y mae’r gyntaf ohonynt yn agor i fusnesau ar y 13eg o Fedi.

Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys Venture Specialist – casgliad o fentrau sgiliau hynod arbenigol y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn eu cefnogi neu’u cyllido’n uniongyrchol.

 

Y bwriad yw y bydd y ganolfan yn esblygu ac yn ehangu i gwmpasu ystod fythol-gynyddol o fentrau sgiliau a doniau a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion sgilio cyflogwyr a gweithwyr y dyfodol ledled y rhanbarth.

 

 

Eglurodd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd â chyfrifoldeb am Ddysgu, Sgiliau a Doniau, bwysigrwydd sylfaenol Venture:

 

Bydd dyfodol ein rhanbarth yn cael ei adeiladu ar wireddu potensial hynod amrywiol pob unigolyn a sefydliad sydd gennym yma yn Ne-ddwyrain Cymru – ac mae Venture yn sylfaen allweddol i lunio’r dyfodol hwnnw.  Byddwn yn lansio ganol mis Medi gyda’n rhaglen arloesol i raddedigion sydd eisoes ar waith; a byddwn yn tyfu’n gyflym i gynnwys ystod o raglenni arbenigol a phrentisiaethau cyffrous sy’n diwallu anghenion llawer o wahanol gyflogwyr a thrawstoriad eang o gymunedau ymgeiswyr.  Mae’n daith fydd yn esblygu’n barhaus, gan ganolbwyntio’n gadarn ar gyfarparu’n rhanbarth â’r sgiliau cynaliadwy y mae arnom eu hangen i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dechrau ymddangos mewn byd sy’n cael ei herio gan newidiadau sylfaenol mewn cymdeithas, seilwaith, demograffeg a’r hinsawdd.”

 

Amlinellodd Nigel Griffiths, Cadeirydd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sut mae Venture eisoes yn helpu cyflogwyr i recriwtio doniau graddedigion ledled y rhanbarth:

 

“Mae strwythur Venture yn galluogi’r tîm i weithio’n agos â chyflogwyr mewn modd parhaus i wir ddeall heriau’u gweithlu ac i’w helpu i nodi’u gofynion o ran doniau.  Mae’n wasanaeth cyfan gwbl rad ac am ddim sy’n darparu cymorth gyda phopeth, o gwmpasu’r union rolau sydd angen eu llenwi, i greu’r disgrifiad o’r swydd, hysbysebu’r rôl, trin y broses o lunio rhestr fer, cynnal y cyfweliadau ac asesu’r ymgeiswyr i sicrhau ‘addasrwydd’ o ran cymwyseddau ac ymddygiadau. 

“Mae hi hefyd yn bendant yn broses ddwyffordd lle mae’r tîm yn sicrhau eu bod yn cyflenwi profiad cadarnhaol i ymgeiswyr, gan ddarparu’r dirnadaethau gwrthrychol gwerthfawr hynny y mae arnom oll eu hangen ar deithiau’n gyrfa.  Bydd y strwythur newydd hwn hefyd yn hwyluso creu cronfa ddoniau fyw – gan weithio’n agos â’n prifysgolion yn ogystal â graddedigion a chyflogwyr – sy’n golygu y gallwn wella’n barhaus ddeilliannau’r biblinell ddoniau i bawb yn y rhanbarth.”        

 

Dywedodd Leigh Hughes, Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol:

 

Daw Venture â ‘siop popeth dan yr unto’ i fusnesau sy’n ceisio tyfu ac i bobl sy’n ceisio hyrwyddo’u gyrfaoedd yn y rhanbarth.  Rydym yn adeiladu ar lwyddiant ein cynllun graddedigion a’r gwasanaeth ardderchog y mae eisoes wedi’i ddarparu – ac yn awr rydym yn ceisio llunio cyfres ehangach o wasanaethau, sydd wedi’u creu’n unswydd bwrpasol ar gyfer union anghenion cyflogwyr a gweithwyr, yn cynnwys cyflwyno cyrsiau hyfforddi ac ystod o gymwysterau sy’n paru pobl a chyflogwyr yn y ffordd fwyaf effeithlon a buddiol, o brentisiaeth i lefelau uwch.

“Mewn llawer o ffyrdd, daw Venture â mwy o ffurf, strwythur a mireinio i’r hyn y gellir ei wneud mewn datblygu sgiliau, gwneud cynnydd mewn gyrfa, a chyflogadwyedd yn gyffredinol, er budd pawb. 

“Gan weithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd Venture yn gallu cysoni cyrsiau hyfforddi a chymwysterau yn nes at yr hyn a ddywed cyflogwyr wrthym y mae arnynt ei wir angen; ac adeiladu ar rywfaint o’r gwaith arloesol a wneir yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, drwy ffurfio partneriaeth â sefydliadau megis rhaglenni ‘Merched mewn Arloesi’ ac ‘Arloeswyr Ifainc’ gan Innovate UK, y mae’r ddwy ohonynt wedi’u paratoi i ddarparu mwy o gynhwysiant ar gyfer y meddyliau disglair sy’n byw yn ein mysg mewn cymunedau sydd yn aml yn gymunedau difreintiedig.”

 

Yn y pen draw, mae Venture yn ymwneud â rhoi cynnig ar gael i bawb gael ato, gan fwynhau’r cymorth y mae arnynt ei angen i ddatblygu’u sgiliau, eu gyrfa neu’u busnesau.

Bydd gan Venture ran gynyddol bwysig mewn helpu i ddatblygu economi cadarn ac sy’n perfformio’n dda sy’n darparu llewyrch cynhwysol yma yn ein rhanbarth.  Rŵan hyn, mae llawer o gwmnïau’n ei chael hi’n anodd canfod y cyfalaf dynol iawn y mae arnynt ei angen ar gyfer eu holl swyddogaethau.  Mae hynny’n her ac yn gyfle, fel ei gilydd, inni fel rhanbarth, ac mae Venture yn cynrychioli un o’r camau rydym yn eu cymryd i dyfu poblogaeth sy’n gweithio lle mae gan bobl y sgiliau y mae arnynt eu hangen i ffynnu yn eu swyddi a’u gyrfaoedd, beth bynnag y bo’r rôl neu’r sector – ac mae gan gyflogwyr y biblinell ddoniau y mae arnynt ei hangen i ddatblygu a llewyrchu’n barhaus.

 

I ganfod mwy o wybodaeth am Venture, edrychwch ar www.venturewales.org , os gwelwch yn dda.

 

 

NODYN I OLYGYDDION:

 

DIWEDD

Share:

Share on twitter
Share on facebook
Share on linkedin

Related Articles

Gallwch nawr Fentro’r Iaith Gymraeg

Pam ddylai’r ganolfan sgiliau Venture fod y lle i fynd ar gyfer cyflogwyr P-RC…

Sut y gall cyflogwyr sicrhau’r graddedigion gorau o 13 Medi – yn gyflym, yn fedrus ac am ddim.