Mae rhoi sgiliau cyflogadwy i bobl ar gyfer y dyfodol – a meithrin y doniau naturiol sydd o fewn pawb – yn sbardun i Jane Mudd. Fel Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Aelod Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n gyfrifol am Ddysgu, Sgiliau a Thalentau, mae brwdfrydedd Jane dros wireddu potensial pobl – a’i hangerdd dros adeiladu cyrchfannau cyflogaeth gwych – wedi’i gweld yn cymryd rôl arweiniol wrth hyrwyddo’r gwaith o sefydlu Venture, Canolfan Sgiliau a Thalent newydd P-RC.
Wrth agosáu at y dyddiad cau i gyflogwyr ymuno â rhaglen recriwtio graddedigion nesaf Venture (am ddim), sef 17 Hydref, gofynnwyd i Jane am ei gweledigaeth a’i huchelgais ar gyfer canolfan arloesol sy’n canolbwyntio ar gyflawni’r cyfleoedd cyflogaeth i’r holl randdeiliaid yn y rhanbarth…
“Mae fy nghefndir gyrfa fy hun mewn Addysg Uwch, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun sut y gall y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ysgogi ac ysbrydoli pobl i gyflawni eu huchelgeisiau ac adeiladu dyfodol boddhaus. Felly, mae Venture i mi yn hanfodol i greu llwyddiant economaidd cynhwysol yn ogystal â rhoi cyfleoedd bywyd i bobl y maen nhw’n eu haeddu – oherwydd bod sgiliau a thwf economaidd yn mynd law yn llaw.
“Mae wedi bod yn fraint wirioneddol gwneud cyfraniad gwybodus i’r ganolfan newydd arloesol hon, gan ddefnyddio fy mherthynas broffesiynol â sefydliadau addysgol a dealltwriaeth o’r fframweithiau cymwysterau. Credaf yn wirioneddol bod gan Venture y potensial i fod yn fodel o’r radd flaenaf ar gyfer darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl a chyflogwyr yn y byd ar ôl y pandemig – y lle i fynd am arbenigedd a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl am oes o waith ystyrlon, wedi’i deilwra i ofynion a chynllun gweithlu cyflogwyr ym mhob sector ar draws de-ddwyrain Cymru.
Mae Venture yn ymwneud â helpu pobl ym mhob cymuned a chyflogwr o bob sector i lwyddo gyda’i gilydd
“Dros amser, bydd Venture yma i ddarparu ystod amrywiol o raglenni sgiliau, gan helpu pobl ym mhob cymuned a chyflogwr o bob sector i lwyddo gyda’i gilydd – meithrin hyder a gwydnwch mewn sefydliadau a darpar weithwyr. Felly beth bynnag a ddaw yn y dyfodol – ac fel deiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed Casnewydd rwy’n gwybod pa mor anghyson y gall bywyd fod – bydd Venture yma i helpu pobl i ddod o hyd i’w hunain a’r rôl sy’n addas iddynt yn y dyfodol.
“Pam ydw i mor hyderus? Mae’r ysbryd o gydweithio ac arloesi yr ydym wedi’i ddangos wrth ddod â’r holl rannau cyfansoddol y tu ôl i Venture ynghyd wedi fy ngwneud yn berffaith sicr ein bod yn creu rhywbeth arbennig. Rydym eisoes wedi profi sut y gall cydweithio’n agos rhwng 10 awdurdod unedol fod yn gatalydd ar gyfer adeiladu sylfaen gref sy’n cyflawni mwy nag y gellid bod wedi’i ystyried yn bosibl erioed. Nawr dychmygwch ryddhau potensial llawn pobl a chyflogwyr ar draws ein rhanbarth cyfan – gyda phawb yn cydweithio i fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle. Mae hynny’n rhoi rhyw syniad o ba mor drawsnewidiol y gall Venture fod – a pham rwy’n credu mor gryf ynddo.
“Mewn sawl ffordd mae Venture yn enghraifft wych o gryfderau allweddol y rhanbarth hwn: yr angerdd hwnnw dros gydweithio a’n gallu i gyd-gynhyrchu. Mae’n ymddangos bod gennym barodrwydd cynhenid i ddod at ein gilydd i ddeall yr hyn sydd ei angen – ac yna gweithredu ar hynny. Rwyf wedi gweld hyn yn y berthynas gryfach o lawer rhwng AB ac AU, y cysylltedd cynyddol rhwng diwydiant a’r byd academaidd – a’r ffordd y mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant wedi eistedd o amgylch y bwrdd ac wedi bod yn gefnogol iawn i’n dull o weithio mewn ffordd strategol. Mae cryfder y cydberthnasau hyn a’r ffordd yr ydym wedi ‘dod at ein gilydd’ yn hanfodol, gan ein bod yn cael y cyfle i greu rhywbeth rhagorol ar ôl sioc economaidd y 18 mis diwethaf.
Mae’r ysbryd o gydweithio sydd wedi gwneud Venture yn bosibl yn dangos pa mor bwerus y gallwn fod pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y rhanbarth hwn
“Rydym ar ddechrau taith Venture wrth gwrs – ac mae gennym lawer o raglenni gwahanol sydd eto i’w datblygu a’u cyflwyno. Ond rwyf eisoes yn arbennig o gyffrous am y rhaglen recriwtio graddedigion nesaf yr ydym yn ei chynnig fel gwasanaeth cwbl ddi-dâl i unrhyw gyflogwr yn P-RC. Rydym eisoes wedi penodi 100 o raddedigion yn llwyddiannus ar ran ystod eang o gyflogwyr ar draws y rhanbarth. Bydd y rhaglen graddedigion newydd hon hyd yn oed yn fwy effeithiol, gan ein bod wedi ymgysylltu â’r holl wasanaethau gyrfaoedd yn ogystal â’r adrannau academaidd yn ein prifysgolion, i gael gwell dealltwriaeth fyth o’r cyrsiau a gynhelir. Mae hyn, ynghyd â deifio’n ddyfnach i union angen pob cyflogwr rydym yn gweithio gydag ef, yn golygu bod y graddedigion a ddarparwn yn ‘barod am gyflogaeth’, gyda’r priodoleddau craidd a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer pob gweithle unigol. Felly, rydym yn dod â ‘sicrwydd ansawdd’ gwirioneddol i bob cyflogwr, yn ogystal â phrofiad gwerth chweil i bob myfyriwr graddedig.
“Rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol faint o waith caled a mewnwelediad sydd wedi’i wneud i ddod â’r arferion recriwtio gorau at ei gilydd gan gyflogwyr o safon a’r prifysgolion gorau – a byddwn yn annog unrhyw gyflogwr sydd am fanteisio ar y gwasanaeth hwn i wneud hynny cyn y dyddiad cau, sef 17 Hydref. Bydd yn dod â myfyrwyr graddedig o safon uchel i chi sy’n cyfateb i ddiwylliant eich busnes a’r rôl y mae angen i chi ei llenwi – gan eich helpu i ddatblygu eich sefydliad, galluogi eich gweithiwr graddedig newydd i ddod â’i holl egni a thalent i’r gweithle; a rhoi cipolwg ar y ffordd y gall Venture helpu i wireddu potensial llawn y rhanbarth hwn wrth symud ymlaen”.