Diweddariad yr hydref Leigh Hughes, Cadeirydd, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol P-RC
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn unigryw, gan herio economi Cymru i barhau â’i hymrwymiad i ailsgilio ac uwchsgilio’r gweithlu ar draws llawer o sectorau. Yn y trydydd a’r olaf o’i Ddiweddariadau yn yr Hydref, mae Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, Leigh Hughes, yn rhannu “llinyn arian trwchus” sydd wedi disgleirio drwy’r saith mis diwethaf, sydd i’w weld yn y cydweithio ysbrydoledig rhwng cwmnïau, colegau, y llywodraeth a darparwyr hyfforddiant, pob un yn benderfynol o gryfhau sgiliau de-ddwyrain Cymru yn y dyfodol.
“Mae ein cipio data yn dangos bod COVID wedi symbylu gwahanol grwpiau i ddod at ei gilydd, rhannu gwybodaeth a syniadau – a chydweithio i ddod â ni’n ôl yn gyflym, i fod yn well nag erioed o’r blaen.”
Mae AU ac AB wedi bod yn cydweithio ar draws y rhanbarth, ar gyfer y rhanbarth.
Ble mae Leigh wedi gweld yr ysbryd hwn o ‘gydberthynas’ yn cynhyrchu canlyniadau pendant?
“Mae enghreifftiau ar draws y rhanbarth, ond hoffwn ganmol yn arbennig y cydweithio rhwng y sefydliadau AB ac AU. Mae hynny wedi cynyddu’n wirioneddol dros y misoedd diwethaf. Maent wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ar draws y rhanbarth, ar gyfer y rhanbarth – ond yn aml does neb yn sylwi arno ac nid yw’n cael ei gydnabod. Edrychwch ar y gwaith cydweithredol gwych sydd wedi esgor ar y Ganolfan Seiberddiogelwch yng Nglynebwy. Mae’r ganolfan arloesol hon wedi bod yn bosibl oherwydd bod y Prifysgolion lleol wedi gweithio gyda’i gilydd, yn annhunanol, i wneud iddo ddigwydd – gan benderfynu ymhlith ei gilydd pwy ddylai chwarae pa ran. Mae hynny’n golygu bod gennym bellach gyrsiau addysg bellach sy’n caniatáu i fyfyrwyr symud yn eu blaen wedyn i AU; ac ymlaen ar ôl hynny i un o’n sectorau mwyaf gwerthfawr sy’n tyfu gyflymaf, lle mae prinder talent ar hyn o bryd. Mae’n enghraifft wych o ba mor aml y mae rhanddeiliaid sy’n cystadlu yn dod at ei gilydd ac yn gweithredu gyda’i gilydd, gan adeiladu ar eu meddylfryd cydgysylltiedig i helpu i gryfhau’r ecosystem gynyddol sydd gennym yma yng Nghymru.”
Mae rhai enghreifftiau gwych o gydweithio ar lefel cydweithiwr i gydweithiwr.
Mae Leigh yn ymwybodol bod sioc gychwynnol COVID a’r ansicrwydd parhaus wedi cael effaith ddofn ar y rhai sy’n awyddus i gael y sgiliau i ymuno ag economi Cymru yn y dyfodol.
“Mae’r effaith fwyaf wedi bod ar y dysgwr, wrth gwrs” medd Leigh. “I’r rhai sydd mewn gwaith, mae gweithio o bell bron wedi rhoi archwiliad annisgwyl i ni o’r hyn y gallant ac na allant ei wneud – lawr hyd at sgiliau sylfaenol fel Word, Excel a PowerPoint. Mae’r Timau Dysgu a Datblygu wwedi gorfod edrych am i mewn mewn gwirionedd; ac mae nifer enfawr o gyrsiau dysgu rhithwir Office 365 yn cael eu cynnal. Rydym hefyd wedi gweld datblygiadau arloesol gwych fel Mentora Digidol o Chwith, lle mae pobl iau a rhai is o ran gradd eu swydd wedi ymuno â rhai hŷn ac uwch eu gradd i ddangos iddynt sut i feistroli rhywbeth fel SharePoint; gyda’r rhai uwch wedyn yn trosglwyddo’u doethineb yn gyfnewid am hynny a’r ddau barti yn creu uniad a fydd yn helpu pawb i ddatblygu. Rwy’n fentorai digidol o chwith fy hun!” medd Leigh.
Beth am bobl iau nad ydynt eto mewn rolau parhaol llawn amser?
“Rydym yn dechrau gweld lleoedd y Brifysgol yn cael eu gohirio ar raddfa fwy nag o’r blaen; ac mae myfyrwyr yn archwilio llwybrau eraill fel Prentisiaethau Uwch. Rydym hefyd wrthi’n asesu effaith y pandemig ar y bobl hynny sydd eisoes ar Brentisiaethau Dysgu yn y Gweithle. Efallai y gallai’r angen i gynnal asesiadau wyneb yn wyneb ymestyn hyd cwrs y prentisiaethau dan sylw; felly mae llawer i’w ystyried ar gyfer yr holl randdeiliaid yn hyn – a dyna beth rydyn ni’n ei wneud.”
Mae ein data yn ein helpu i fod ar y blaen wrth ragweld tirwedd ddiwydiannol y dyfodol – a’r talentau sydd eu hangen ar y dirwedd honno.”
Mae ‘data’ yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn asesiad Leigh o sut mae’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn helpu i ddatblygu llwyddiant ar draws llawer o sectorau.
“Mae ein cynllun 3 blynedd yn ymwneud â diogelu de-ddwyrain Cymru yn y dyfodol, edrych ar y dirwedd ddiwydiannol sy’n datblygu, nodi’r talentau y bydd eu hangen arni – a gweithio i fod ar y blaen i’r gromlin hon.”
“Mae ein Cipio Data yn llawer mwy cadarn nawr ac rydym yn canfod bod y cyfathrebu parhaus â chyflogwyr i ddeall y bylchau sydd ganddynt, a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn werthfawr iawn. Mae’n dod â gwydnwch i’r sector a hefyd yn galluogi ein Bwrdd i ddeall sut mae ein tueddiadau rhanbarthol yn cyd-fynd â safbwynt byd-eang, fel y gallwn helpu i hwyluso mewnfuddsoddiad pellach. Dyna yw’r cydweithio: edrych yn barhaus ar y cynllun 3 blynedd, meddu ar yr ystwythder i sicrhau’r ymyriadau cywir, i gael yr arian i ddiwallu anghenion sgiliau’r Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol. Mae un peth yn sicr: os byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd, fe ddown drwy hyn yn y ffordd orau bosibl; a byddwn yn gwireddu ein gweledigaeth a nodir yn ein cynllun Partneriaeth Sgiliau.”