Buddsoddi mewn Menywod mewn Arloesedd
Partneriaeth cyd-ariannu gydag Innovate UK
Mae P-RC wedi ffurfio partneriaeth ag Innovate UK, gan annog dyfeiswyr ac entrepreneuriaid De-ddwyrain Cymru i arddangos eu dyfeisgarwch yn flynyddol Gwobrau Menywod mewn Arloesedd) – lle mae enillwyr y gwobrau yn sicrhau buddsoddiad ariannol o £50,000, yn ogystal â derbyn yr hyfforddiant a’r mentora gorau yn y diwydiant, i ddatblygu eu syniadau a’u datblygiadau arloesol i’r eithaf. Byddwn yn darparu cyllid ar gyfer unrhyw brosiect arloesi a arweinir gan fenywod, unrhyw le ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, fydd yn ennill gwobr Innovation UK.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ysbrydoledig hon, gweler Menywod mewn Arloesedd – KTN (ktn-uk.org).
Ynglŷn â “Menywod mewn Arloesedd”
Ers 2016, mae ymgyrch Innovate UK ‘Menywod mewn Arloesedd’ wedi tynnu sylw at yr entrepreneuriaid benywaidd arloesol sydd wedi mynd i’r afael â rhai o’r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf a wynebwn – o newid yn yr hinsawdd i drafnidiaeth lanach a gwell gofal iechyd – gan greu cymuned gydweithredol o fenywod sy’n dangos esiampl, gan rannu gwybodaeth ac annog twf entrepreneuraidd i fenywod ledled y DU.
Mae’r rhaglen yn cefnogi menywod ar gam tyngedfennol yn eu busnesau, gan eu galluogi i gymryd cam pwysig ymlaen a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i arloesedd yn y DU a thu hwnt. Mae amrywiaeth mewn busnes yn sbardun profedig i dwf economaidd a bydd cynyddu nifer y menywod sy’n dechrau ac yn graddio busnesau arloesol yn y DU yn datgloi manteision economaidd a chymdeithasol enfawr.
Pam rydym yn buddsoddi yn y rhaglen hon
Rydym yn falch o fod yn un o gyd-gyllidwyr cyntaf Innovate UK mewn cynllun sy’n atgyfnerthu ein huchelgais i sicrhau bod arloesedd yn cael ei gydnabod fel un o brif ffactorau twf economaidd.
O ystyried creadigrwydd, mentergarwch ac ysbryd entrepreneuraidd a ddangosir gan fenywod o bob oedran ac ym mhob cymuned ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, credwn fod potensial enfawr i dyfu cynrychiolaeth menywod De-ddwyrain Cymru yn y gwobrau mawreddog hyn – gan fuddsoddi arian fel partner rhanbarthol Innovation UK: yn ceisio cefnogi uchelgais a gweledigaeth entrepreneuriaid benywaidd gyda phrosiect arloesi rhagorol.
Cystadleuaeth ar Agor ar gyfer Ceisiadau
Mae Gwobrau Menywod mewn Arloesedd 2021/22 ar agor ar gyfer ceisiadau o 23 Awst i 13 Hydref 2021 – ac rydym am i’r ceisiadau eleni rymuso’r arloesi gorau a arweinir gan fenywod o bob rhan o’n rhanbarth.
Felly, os oes gennych syniad arloesol ysbrydoledig a all newid ein byd er gwell, camwch tuag at eich dyfodol nawr, yn:
Trosolwg ar y gystadleuaeth – Gwobrau Menywod mewn Arloesedd 2021/22 – Gwasanaeth Ariannu Arloesedd (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
Ddim yn siŵr o hyd? Edrychwch ar enillwyr y llynedd a chael eich ysbrydoli!
Women-in-Innovation-Awards-Winners-2020-21-Brochure.pdf (ktn-uk.org)