Croeso i Venture Graddedigion

Cysylltu graddedigion talentog a busnesau uchelgeisiol

Rwy'n

Gyflogwr

Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth AM DDIM a

Rwy’n

Fyfyriwr Graddedig

Dod yn Venture Graddedigion a

Beth yw Cynllun Venture Graddedigion

Nod Cynllun Venture Graddedigion  yw gwella cynhyrchiant, arloesi a thwf economaidd drwy gysylltu graddedigion â busnesau uchelgeisiol yn y deg awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau am ddim i fusnesau oresgyn rhwystrau i recriwtio, gan gynnwys cymorth adnoddau dynol a marchnata eu rôl ledled y rhanbarth, tra bod graddedigion ar y cynllun yn cael cymryd rhan mewn cynllun graddedigion cydlynol ac yn cwblhau cymhwyster SARh a gydnabyddir yn rhyngwladol a ariennir yn llawn, gan wella sgiliau cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfa ein Graddedigion Venture. Ein nod yw sicrhau bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyrchfan ddeniadol i raddedigion ddechrau eu gyrfaoedd, gan gadw talent o fewn y rhanbarth yn ogystal â galluogi twf busnes drwy gael gweithlu medrus llawn cymhelliant. Ac ar ben hynny, fel rhan o’n hymrwymiad i’ch helpu i ryddhau eich potensial a gwireddu eich uchelgeisiau mae holl wasanaethau Venture am ddim!

i'r dalent orau sydd ar gael drwy ein partneriaethau prifysgol a phartneriaid recriwtio ledled y wlad.

darparu canllawiau proffesiynol ac arferion recriwtio ac asesu arloesol.

Dim gwaith papur diangen, dim prosesau hirwyntog.  Yr ydym yn hawdd delio â ni ac yn mynd drwy brosesau’n gyflym.

Mynediad i rwydwaith byd-eang o wasanaethau mentora proffesiynol drwy ein partneriaeth â GlobalWelsh

Ein Partneriaid Graddedigion

Drwy gydweithio â’n partneriaid, gallwn gynnig buddion a chymorth ychwanegol i’n cyflogwyr a’n graddedigion.

Lloyd Williams, Rheolwr Datblygu Cyflogadwyedd ym Mhrifysgol De Cymru sy’n siarad â ni am y rôl bartneriaeth ragweithiol mae’r 4 Prifysgol yn ne Cymru; Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a’r Brifysgol Agored wedi ei chwarae yn rhoi cyngor a chefnogaeth i raglen Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hyd yma ac mae’n amlinellu’r ymrwymiad parhaus i’r bartneriaeth wrth i’r rhaglen lwyddiannus yn cael ei hailfrandio dan enw Venture Graddedigion a’i hail-lansio a’u hail-bwrpasu er mwyn gallu ehangu i ymateb i’r galw cynyddol.

Global Welsh

Mae GlobalWelsh yn sefydliad dielw ar daith i gysylltu Cymru â’r diaspora Cymreig – y rhai sydd â chysylltiad â Chymru sydd wedi’u gwasgaru ledled y byd. Drwy ein partneriaeth mae GlobalWelsh rydym yn cynnig aelodaeth Pathfinder neu Arloeswyr GlobalWelsh 12 mis AM DDIM i raddedigion a pherchnogion busnes. Mae hyn yn cynnwys mynediad i’n llwyfan cymunedol byd-eang, Connect a rhaglen fentora fyd-eang, MyMentor.

Darogan Talent Cymru

Mae Darogan Talent yn bodoli i gefnogi myfyrwyr a graddedigion i ddod o hyd i gyfleoedd gwych yng Nghymru, ac i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i raddedigion.  Drwy ein gwefan, rydym yn tynnu sylw at gyfleoedd ar ein bwrdd gwaith, yn rhannu newyddion a chyngor am fyd gwaith yng Nghymru, ac yn caniatáu i fyfyrwyr a graddedigion gysylltu â’i gilydd drwy ardal ein haelodau.  Rydym yn gweithio’n agos gyda P-RC i hyrwyddo’r rolau niferus i raddedigion, mewn amrywiaeth o sectorau, y maent yn eu hwyluso yn y rhanbarth, ac wedi gweithio ochr yn ochr â hwy ar ddigwyddiadau am economi Cymru i raddedigion. Edrychwn ymlaen at barhau â’n partneriaeth agos i hyrwyddo’r cyfleoedd gorau sydd gan Gymru i’w chynnig i raddedigion.
5

Mae 5 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yng Nghaerffili

5

Mae 5 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yn Sir Fynwy

9

Mae 9 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yng Nghasnewydd

1

Mae 1 graddedig wedi’i leoli mewn cwmni yn Nhorfaen

1

Mae 1 graddedig wedi’i leoli mewn cwmni ym Merthyr Tudfil

7

Mae 7 graddedig wedi’i leoli mewn cwmni yn Rhondda Cynon Taf

5

Mae 5 o Raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau ym Mro Morgannwg

6

Mae 6 graddedig wedi’u lleoli mewn cwmnïau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

61

Mae 61 o raddedigion wedi’u lleoli mewn cwmnïau yng Nghaerdydd

Rydym wedi penodi 101 o raddedigion ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Venture Graddedigion yn gweithio gydag amrywiaeth eang o fusnesau yn y ranbarth, yn amrywio o fusnesau cychwynnol, meicro, menter fach i ganolig, a busnesau mawr, i gyd yn awyddus i gynnig cyfleoedd i raddedigion sy’n dechrau eu gyrfa i ddefnyddio eu sgiliau a gwybodaeth i helpu eu busnesau i ehangu. Mae nifer o’r busnesau gan gynnwys Spire Renewables (Caerffili), Mag Manager (Sir Fynwy), Lovell (Caerdydd) a Clifton Finance (Caerdydd) yn cyflogi eu hail a trydydd graddedigion trwy’r cynllun.

2000+

o geisiadau hyd yma

85%

o interniaethau wedi'u gwneud yn rolau parhaol

341

o gysylltiadau busnes newydd wedi’u gwneud o fewn P-RC

53%

o'r graddedigion a benodwyd hyd yma yn dod o brifysgolion lleol

Astudiaethau Achos

Alex Hopkins – MSc Human Resource Management

Liz Knowles – Fulcrum Direct Limited