Denu a datblygu graddedigion i yrru llwyddiant eich busnes
Recriwtio, datblygu a chadw'r dalent raddedig sy'n iawn i chi...
Ymgysylltu a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent i gyflawni eich uchelgeisiau.
Hyrwyddwch yn bwerus y cyfleoedd gwaith sydd gennech yn eich menter.
Cael eich gweld fel cyflogwr cynhwysol o ddewis, wedi'i adeiladu ar gyfer llwyddiant parhaus.
Sut bydd ein cynllun yn eich helpu chi?
Fel rhan annatod o genhadaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflawni potensial pobl a sefydliadau ar draws De-ddwyrain Cymru, mae Venture yn darparu rhaglen recriwtio a datblygu graddedigion unigryw a fydd yn cymryd eich menter i’r lefel nesaf.ย
- Gwasanaeth denu a recriwtio proffesiynol o'r dechrau i'r diwedd, wedi'i deilwra i'ch swydd
- Cyngor arbenigol a chymorth proffesiynol wrth greu disgrifiadau swydd i raddedigion sy'n wirioneddol sefyll allan
- Cyswllt parhaus, digwyddiadau a chymorth lles ar gyfer eich gweithiwr graddedig newydd
- Mynediad at y gronfa dalent ehangaf posibl, trwy ein partneriaeth strategol unigryw gyda phrifysgolion gorau De Cymru a thu hwnt
- Rhaglen ddatblygu carlam i gyflymu perfformiad eich graddedigion a dechrau diogelu eich sylfaen sgiliau yn y dyfodol
- Mynediad at rwydwaith byd-eang o entrepreneuriaid ac arbenigwyr yn y diwydiant i'ch helpu chi a'ch graddedigion i dyfu a datblygu
- Byddwch yn llais gwerthfawr yng nghymuned fusnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan fwynhau llwyfan i hyrwyddo eich sefydliad fel busnes a chyflogwr
Dyfyniadau Cyflogwyr
"Fel popeth arall ar hyn o bryd, rydym yn edrych am ffordd i gadw costau lawr felly rydym yn gallu gwario arian lle maent angen. Roedd defnyddioโr cynllun graddedig yn lle defnyddio recriwtiad traddodiadol yn ffordd i ni i wneud hynny ac ennill ymgeisydd arbennig. Roedddem eisiau mwy o fynediad iโr marchnad a gwaethon nhw [y cynllun graddedig] cysyllu a sbarduno eu chysylltiadau i atynnu graddedigion newydd o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru aโr Prifysgol Agored."
"Does dim byd i golli, dim ymrwymiadau, mae nhw'n gwneud tasgau llafurus i chi ac mae am ddim."
"Gydaโr cynllun yn cynnig gwasanaeth dechrau i ddiwedd, beth bynnag ywโr elfen oโr broses recriwtio rydych chi angen cymorth gyda, maeโr cynllun yn sicrhau canlyniadau."
"I fusnesau heb amser ac adnoddau, maeโr PRC yn gallu cynnig cymorth ychwanegol gydaโr rhestrau-fer aโr broses cyfweliadau."
Datrysiad talent graddedigion effeithiol, effeithlon a syml
Cwestiynau Cyffredin gan Gyflogwyr
Gall graddedigion weithio mewn ystod eang o feysydd; gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, cynhyrchion fferyllol a gwyddorau bywyd, peirianneg, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, rheoli prosiectau (mae'r rhestr yn mynd ymlaen!) Os ydych yn teimlo bod gennych rรดl a allai fod yn addas ar gyfer myfyriwr graddedig, cysylltwch รข ni i gael gwybod sut y gallwn helpu.
Cyhyd รข bod eich busnes angen iddi wneud. Er ein bod yn argymell o leiaf 6 mis.
I fod yn gymwys, rhaid i'ch busnesau fod:
- O fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (y deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru - Blaenau Gwent;ย Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili; Caerdydd; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a Bro Morgannwg)
- Cyflogwr oโr sector preifat, cyhoeddus neu ddielw. Maeโr cynllun ar agor i fusnesau o bob sector a diwydiant - yn amrywio o sefydliadau cenedlaethol mawr i BBaChau aย microfusnesau syโn tyfu
Cyfrifoldeb y cyflogwr yw talu'r myfyriwr graddedig drwy gydol ei gyflogaeth.