Sut mae’n gweithio
Isod yw strwythur y model derbyniad a fydd yn digwydd tair gwaith y flwyddyn
Cam Un
Ymgysylltu â chyflogwyr
Mae ein tîm ymroddedig yn gweithio'n barhaus gyda chyflogwyr ar draws y rhanbarth i sefydlu rolau trwy atyniad busnes a rhyngweithio.
Hysbysebu Swyddi
Cam Dau
Bydd ein rownd nesaf o swyddi gwag yn mynd yn fyw ar y 17eg o Hydref - trwy hysbysebion swyddi sydd wedi'u hysgrifennu'n broffesiynol a'u hysbysebu mewn sianeli recriwtio blaenllaw.
Llunio Rhestr Fer o Raddedigion
Cam Tri
Mae ein proses drylwyr o lunio rhestr fer yn dechrau ar unwaith - gan alluogi asesiadau cyflym, a chyfweliadau ac apwyntiadau yn dilyn yn agos.
Lleoliad Llwyddiannus
Cam Pedwar
Ar ôl eu penodi, bydd eich graddedigion newydd yn cael cynllun datblygu wedi'i deilwra - gan fwynhau cefnogaeth barhaus sy'n cynnwys digwyddiadau a chyfleoedd mentora.
Ymgysylltu â chyflogwyr
Mae tîm Graddedigion Mentro yn creu cyfleoedd i raddedigion yn barhaus ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - gan weithio gyda chyflogwyr o bob maint a sector i lunio rôl raddedig i helpu i yrru llwyddiant eich busnes yn y dyfodol.
Dyma gam cyntaf y gwasanaeth recriwtio a datblygu o’r dechrau i’r diwedd a fydd yn eich helpu i ddiogelu eich busnes at y dyfodol.
Hysbysebu Swyddi
Bydd yr hysbyseb ar gyfer eich swydd wag yn mynd yn ‘fyw’ ac yn agored ar gyfer ceisiadau o’r 17eg o Hydref - gan hyrwyddo eich cyfle am swydd trwy ein sianeli recriwtio rhanbarthol a DU gyfan, gan gynnwys y llwybr recriwtio profedig a ddarperir gan ein partneriaid prifysgol strategol.
Llunio Rhestr Fer o Raddedigion
Mae ein proses asesu ymgeiswyr trwyadl yn cynnwys y fethodoleg ddiweddaraf un, gan gynnwys:
- Asesiad CV
- Profion Ar-Lein Penodol i’r Swydd
- Cyfweliadau Rhithwir a Gynhelir yn Arbenigol
Rydym yn llunio rhestr fer ac yn cyflwyno dim ond yr ymgeiswyr gorau oll ar gyfer eich swydd wag.
Lleoliad Llwyddiannus
Rydym yn darparu gwasanaeth sefydlu arbenigol, gan gynnig dull modiwlaidd cymysg a chyfatebol sy'n cyd-fynd â'ch gweithrediadau busnes - trwy raglen hyblyg, wedi'i dylunio i helpu'ch graddedig i ychwanegu gwerth o'r diwrnod cyntaf, gan leihau amser segur a sicrhau'r enillion cyflymaf posibl ar eich buddsoddiad.