At sylw graddedigion!

Dewch o hyd i’ch rôl berffaith i raddedigion ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda chymorth gan Gynllun Venture Graddedigion!

Cofrestrwch Nawr!

Cael gwybod y munud y daw swyddi ar gael a dysgwch fwy am ein gweithdrai graddedigion sydd ar ddod trwy gofrestru yma.

Cyflymwch eich gyrfa fel Graddedig Venture

Fel Graddedig Venture, byddwn yn eich helpu i gymryd eich cam cyntaf ar yr ysgol yrfa - a chael eich swydd ddelfrydol.

Cysylltwch â chyflogwyr o safon a chyfleoedd lefel graddedig cyfredol sy'n eich ysgogi a'ch cyffroi

Gweithdai profiad wedi'u teilwra i'ch helpu i ddeall eich cryfderau a llwyddo yn y broses Graddedigion Venture

Sicrhewch yrfa hir gyda'n rhaglen sgiliau addysgiadol

Cefnogaeth a digwyddiadau parhaus, fel rhan o gymuned Graddedigion Venture - wedi ymrwymo i'ch lles a'ch dilyniant

Aelodaeth unigryw o rwydwaith byd-eang o fentoriaid busnes sy'n arwain y diwydiant i'ch helpu i ffynu yn eich gyrfa

Ymunwch â'n cymuned Graddedigion Venture nawr!

Rydym am i chi elwa ar waith diddorol, heriol a gwerth chweil sy’n eich galluogi i ddysgu a symud ymlaen yn barhaus yn eich gyrfa.

Dyna pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr uchelgeisiol o safon mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys y rhai sy’n arwain y ffordd ym maes trawsnewid digidol a thechnoleg, cynaliadwyedd, arloesi a chreadigedd.

Mae ein partneriaid gyflogwyr yn rhannu ein gwerthoedd o annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac maent wedi ymrwymo i’ch cydnabod am bwy ydych chi a’r hyn y gallwch ei gynnig.

Dyfyniadau Graddedigion

Pam Dinas-ranbarth Caerdydd?

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ddigon o gyfleoedd i Venture Graddedigion . Mae’n llawn rhagolygon gyrfa gwych ac mae rhesymau diddiwedd dros fyw a gweithio yn y rhanbarth, gan gynnwys costau byw cymharol isel, amgylchedd arbennig, a bywyd bywiog o ran digwyddiadau gyda chyfoeth o weithgareddau a digwyddiadau ar garreg eich drws, sy’n gwneud De Cymru yn lle perffaith i’w alw’n gartref.

Costau Byw cyfartalog;
gallai arbed rhywfaint o arian i chi!

Yn ôl canfyddiadau ABC Finance Limited (2017), cyfartaledd costau byw blynyddol yng Nghymru oedd £22,018, o'i gymharu â £30,898 (cyfartaledd Llundain) a £25,766 (cyfartaledd y DU). Canfuwyd hefyd bod Caerdydd a Chasnewydd ymhlith yr ardaloedd sydd â’r 5 incwm uchaf ar ôl gwariant blynyddol y cartref.

Amgylchoedd arbennig;
Llawer gormod i sôn amdanynt!

Gyda digonedd o barciau, tirnodau hanesyddol a thraethau dim ond 'tafliad carreg i ffwrdd' cewch gyfleoedd diddiwedd i archwilio beth sydd ar garreg eich drws. Mae'r cyfan gennym, o gestyll ac amgueddfeydd, y Big Pit a'r Morglawdd a digon o barciau cenedlaethol a thrysorau cudd yn aros i chi eu darganfod!

Digwyddiadau Cyffrous a
Gweithgareddau Diddiwedd

Beth bynnag sy’n enyn eich diddordeb, gall, a bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn darparu ar ei gyfer. I'r rhai sy'n dwlu ar chwaraeon, p'un a’ch bod chi'n cymryd rhan neu'n hoffi gwylio, mae'r cyfan gennym o Athletau i Sorbio! Os ydych chi'n chwilio am fywyd nos bywiog neu am gyfle i ymlacio, mae gennym ddigonedd o leoliadau cerddoriaeth, bwytai a gwestai sba! Dewch yn aelod gweithgar o’ch cymuned (newydd). Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn amrywiol ac yn llawn gweithgareddau diwylliannol i chi gymryd rhan ynddynt!

Gwasanaethau Gyrfaoedd Prifysgolion

Bydd Gwasanaethau Gyrfaoedd Prifysgolion yn cynnig cymorth wrth i’w graddedigion lywio ceisiadau ac asesiadau ar gyfer swyddi graddedigion. Bydd y 4 Prifysgol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cefnogi eu graddedigion yn benodol i gynllunio a pharatoi ar gyfer y Cynllun Venture Graddedigion.

Cwestiynau Cyffredin gan Raddedigion

Pa radd sydd ei hangen arnaf i wneud cais am y cynllun?

Croesewir pob cefndir gradd oni bai bod y cyflogwr gwneud cais arbennig. Caiff graddedigion a swyddi eu paru yn ôl y wybodaeth a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd gan y graddedig i'w cynnig i'r busnes

Ai dim ond ar gyfer graddedigion diweddar y mae'r cynllun?

Na, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofyniad am y swydd benodol, rydych yn gymwys i wneud cais.

Bydd ystod eang o swyddi interniaeth yn dibynnu ar anghenion busnesau – gallai hyn amrywio o rôl marchnata digidol mewn busnes o 10 o weithwyr i reoli prosiectau mewn cwmni o 200 o weithwyr.

A fydd mwy o garfanau Cynllun Venture Graddedigion ar ôl hyn?

Bydd, bydd tair carfan y flwyddyn.

A oes angen i mi ddarparu tystiolaeth o'm hawl i weithio yn y DU?

Oes. Gofynnir i bob ymgeisydd am ddogfennaeth yn cadarnhau ei hawl i weithio yn y ganolfan asesu. Ni ellir cynnig swydd i chi heb hyn. Am fwy o wybodaeth ewch i gov.uk/legal-right-to-work-in-the-uk

Pa ddarpariaeth a wneir ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau?

Gan fod y swyddi wedi'u lleoli mewn gwahanol safleoedd yn y rhanbarth, disgrifir unrhyw broblemau o ran mynediad yn yr hysbysebion swyddi. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer swyddi ac yn eich annog i ddatgelu unrhyw anableddau ar eich ffurflen gais. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol.

Ydych chi'n derbyn ceisiadau yn Gymraeg?

Er ein bod yn annog defnydd o'r Gymraeg ar y cynllun lle bo modd, dim ond os yw'r cyflogwr yn nodi hyn ar y disgrifiad swydd y gallwn dderbyn ceisiadau yn Gymraeg.

Beth yw Cymhwyster ILM?

Mae'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) yn Gorff Dyfarnu Rhyngwladol y mae ei gymwysterau'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Rydym wedi gwrando ar gyflogwyr ac yn cydnabod bod Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn sgiliau hanfodol i'n Venture Graddedigion eu datblygu. Rydym yn cydweithio â Phrifysgol De Cymru i gyflwyno'r cymhwyster ILM Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Bydd Venture Graddedigion hefyd wedi'u cofrestru gydag ILM drwy gydol eu cwrs (hyd at 12 mis).

Beth sy'n digwydd os byddaf yn aflwyddiannus, a allaf wneud cais am swyddi eraill?

Os nad ydych yn llwyddiannus mewn rôl, gallwch yn bendant wneud cais am swydd arall. Rydym yn gweithio gyda llawer o gyflogwyr, a fydd i gyd â gofynion gwahanol, a byddem yn eich annog i wneud cais am swydd arall. Os oes angen cymorth pellach arnoch neu os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â ni.