Rhaglen Cyflymydd Gyrfa
Cyflymwch eich datblygiad proffesiynol. Cynyddwch eich potensial.
Cyflymu eich Datblygiad
Fel Graddedigion Venture byddwch yn cael eich cefnogi’n bersonol a’ch datblygu’n broffesiynol, gan elwa o’n Rhaglen Cyflymu Gyrfa 12-mis unigryw, wedi’i dylunio i’ch helpu i wireddu eich potensial!
Bydd eich rhaglen yn cael ei siapio’n unigol i weithio ochr yn ochr â’ch rôl raddedig – gan roi’r opsiwn i chi ddewis un o’n dau lwybr dysgu, yn ogystal â mynediad at ystod arbenigol o gyrsiau byr proffesiynol ar-lein; a hyd yn oed roi’r cyfle unigryw i chi gael mentor proffesiynol.
Rhaglen wedi'i dylunio o’ch cwmpas 'Chi'
Mae’r rhaglen gyfan yn canolbwyntio ar gyflymu’ch sgiliau a’ch gwybodaeth yn y gweithle trwy gynnig cyfleoedd dysgu a datblygu amrywiol i chi sydd wedi’u teilwra ar gyfer eich anghenion, gyda phwyslais ar sgiliau yn y dyfodol a fydd o fudd i chi drwy gydol eich gyrfa.
Cynigir ein llwybrau dysgu gan ein prifysgolion partner – Prifysgol De Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru – ac mae pob opsiwn dysgu wedi’i ddewis yn ofalus i gynnig lefel ddyfnach o wybodaeth yn eich maes diddordeb; a rhoi pob cyfle i chi wella eich datblygiad proffesiynol.
Y tu hwnt i hynny i gyd, byddwch hefyd yn aelod gwerthfawr o’n cymuned Graddedigion Venture gyfeillgar – yn cael eich gwahodd i ymuno â’n grŵp Cymunedol LinkedIn a nifer o ddigwyddiadau i raddedigion, yn ogystal â mwynhau sesiynau gwirio rheolaidd mewn perthynas â’ch datblygiad gan dîm Graddedigion Venture cefnogol iawn.