Dyfodol wedi’i Adeiladu ar Sgiliau a Thalent
Dyfodol sy'n Esblygu – Yn Gyflym
Mae P-RC yn esblygu’n gyflym – ac felly Venture hefyd. Mae ein brand newydd yn adlewyrchu’r ffaith bod ein rhaglenni’n ehangu o osod ymgeiswyr graddedig yn ‘unig’ i gynnig amrywiaeth o gynlluniau arbenigol, ochr yn ochr â chyfleoedd llogi profiadol a rhaglenni dysgu newydd. Bydd ein holl raglenni wedi’u cynllunio i feithrin y dalent a chyflawni’r cyfalaf dynol a fydd yn rhoi gweithlu medrus, brwdfrydig a blaengar i’n rhanbarth.
Rhyddhau Potensial y Dyfodol
Nod ein rhaglenni sgiliau a thalent Venture yn paru’r bobl ‘gywir’ â’r rolau ‘cywir’ a’r cyflogwyr ‘cywir’, ar draws De-ddwyrain Cymru. Ein huchelgais yw ‘gwneud y peth iawn’ i bawb;
- rhoi pobl mewn amgylchedd a diwylliant gwaith lle gallant ffynnu a datblygu;
- helpu sefydliadau i greu gweithlu gwydn a hyblyg wedi’i adeiladu ar dimau sy’n perfformio’n dda a ffrydiau talent cryf.
Sicrhau bod ein holl randdeiliaid yn y rhanbarth yn ‘ennill’, heddiw ac yn y dyfodol.
Sgiliau Parod i'r Dyfodol
Mae ein fframwaith sgiliau “Parod i’r Dyfodol” yn canolbwyntio ar ddarparu talent i bob diwydiant – o’n sectorau blaenoriaeth megis Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Seibr, Ynni, Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol a Thrafnidiaeth, i Ofal, Gweithgynhyrchu, y Cyfryngau, y Sector Cyhoeddus, Mentrau Cymdeithasol a’r amrywiaeth eang o rolau gwerthfawr sydd ar gael drwy ein heconomi gynyddol.
Credwn fod gwaith ystyrlon i bawb yn y dyfodol newydd hwn – ac rydym yma i weithio gyda sefydliadau ac unigolion i greu dyfodol cynaliadwy llewyrchus i bawb.
Ein Hethos
Cysylltiedig
Dod â thalent a chyfleoedd at ei gilydd drwy ein rhwydwaith partneriaethau helaeth.
Cydweithiol
Gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion.
Uchelgeisiol
Eich helpu i wneud y gorau o'ch potensial llawn.